Sgiliau ar gyfer y Dyfodol — Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Safonau Amgylcheddol ar gyfer Gweithlu Iachach a Mwy Clyfar
Mae'r prosiect hwn yn cyflwyno menter uchelgeisiol dan arweiniad busnesau i drawsnewid sgiliau'r gweithlu ledled de-orllewin Cymru drwy ddarparu dau lwybr o ran cymwysterau cydgysylltiedig: roedd un yn canolbwyntio ar Ansawdd yr Amgylchedd Dan Do (IEQ), a'r llall ar lythrennedd Deallusrwydd Artiffisial (AI) ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Er bod y ddau sector hyn yn ymddangos yn wahanol, maent yn unedig oherwydd yr angen sydd gan y ddau am sgiliau sy'n barod i'r dyfodol, cymhwysedd digidol, ac ymateb rhagweithiol i newid rheoleiddiol ac arloesi.
Mae'r prosiect yn mynd i'r afael â heriau rhanbarthol hirdymor: anweithgarwch economaidd, stoc dai wael, a galw cynyddol am ofal cymdeithasol, a hynny trwy ymgorffori ymarfer a gwybodaeth arloesol mewn sectorau sy'n cyffwrdd â bywydau pob preswylydd bob dydd. Er eu bod yn wahanol o ran cynnwys, mae'r ddau linyn wedi'u cysylltu gan weledigaeth ar gyfer gweithlu rhugl, ystwyth a hyderus a all ysgogi canlyniadau gwell i'r rhanbarth o ran iechyd, tai a'r economi. Mae'r dull arloesol hwn yn adlewyrchu'r hyn y mae cyflogwyr, cyrff y diwydiant ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ledled de-orllewin Cymru yn galw amdanynt: rhaglenni sgiliau cydgysylltiedig, ymarferol a blaengar nad ydynt yn dibynnu ar lwybrau traddodiadol yn unig o ran mynd i'r coleg. Trwy ymgysylltu'n uniongyrchol â chyflogwyr a chyrff cynrychioladol, yn hytrach na dibynnu ar sefydliadau addysg yn unig, mae'r prosiect hwn yn dod yn fwy ystwyth, yn fwy ymgorfforedig, ac yn fwy adlewyrchol o'r hyn sydd ei angen ar y gweithlu heddiw. Mae'r allbynnau'n cynnwys 400 o unigolion â sgiliau uwch a 2 fframwaith newydd wedi'u creu.
Cyswllt
Cysylltiadau Partneriaeth: