Skip to main content
Hwb Sgiliau Trawsnewid i Ynni yng Ngholeg Sir Benfro

Mae'r Hwb Sgiliau Trawsnewid i Ynni yng Ngholeg Sir Benfro yn fenter arloesol sydd wedi'i chynllunio i roi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i unigolion ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiannau ynni adnewyddadwy a charbon isel. Cefnogir y cyfleuster arloesol hwn gan Shell UK a Chronfa Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a gynhelir gan Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol De Orllewin Cymru. Mae'n rhoi hyfforddiant trochi ymarferol ar systemau rheoli sy'n hanfodol ar gyfer tyrbinau gwynt sy'n arnofio ar y môr, ar gyfer cynhyrchu hydrogen, paneli solar ffotofoltäig a thechnolegau ynni eraill sy'n dod i'r amlwg. Mae Coleg Sir Benfro wedi gweithio gyda City and Guilds i ddatblygu rhaglen aswiredig, sy'n dyfarnu bathodyn digidol i'r dysgwyr ar ôl iddynt ei chwblhau. 

Yn ôl Sam Egerton o City and Guilds, "Mae City & Guilds wrth ei fodd yn gweithio gyda Shell UK a Choleg Sir Benfro ar yr Hwb Sgiliau Trawsnewid i Ynni. Pwrpas y fenter arloesol wych hon yw rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl er mwyn dilyn gyrfa mewn ynni adnewyddadwy a charbon isel, gan fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau enfawr a geir yn fyd-eang yn y sector hwn. Rydym yn falch bod dros 150 o unigolion hyd yma wedi derbyn cymhwyster digidol aswiredig City & Guilds ar ôl cwblhau'r rhaglen”

Effaith y Prosiect

Datblygwyd yr Hwb Sgiliau Trawsnewid i Ynni mewn ymateb i esblygiad cyflym y sector ynni, a'r galw cynyddol am weithlu â sgiliau mewn technolegau adnewyddadwy a charbon isel.  

Mae'r cyfleuster yn cynnwys ystafell reoli rithwir o'r radd flaenaf, sy'n galluogi myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol i ennill profiad ymarferol o reoli systemau ynni cymhleth. Mae profiad ymarferol o'r systemau hyn yn hanfodol er mwyn paratoi unigolion am heriau diwydiannol yn y byd go iawn.

Mae'r fenter yn dyngedfennol er mwyn sefydlu Sir Benfro fel arweinydd ym maes trawsnewid i ynni adnewyddadwy. Drwy ddarparu cyflenwad o weithwyr medrus, mae'r Hwb yn cefnogi buddsoddiad rhanbarthol ac yn denu busnesau sy'n chwilio am weithlu hyfforddedig. Mae'r prosiect yn cyd-fynd ag amcanion cenedlaethol ehangach i wella galluoedd ynni adnewyddadwy'r DU, lleihau allyriadau carbon, a chreu cyfleoedd am gyflogaeth gynaliadwy.

Un o'r prif agweddau y mae'r Hwb yn canolbwyntio arnynt yw cefnogi'r cyfleoedd ynni adnewyddadwy cynyddol yn y rhanbarth, yn enwedig Tyrbinau Gwynt sy'n Arnofio ar y Môr a Phaneli Solar Ffotofoltäig, yn ogystal ag egin-dechnolegau eraill y disgwylir iddynt gael eu cyflwyno yn Sir Benfro. Drwy sicrhau bod gan bobl leol fynediad at hyfforddiant o ansawdd uchel yn y meysydd hyn, mae'r Hwb yn chwarae rhan hanfodol er mwyn paratoi'r gweithlu am swyddi'r dyfodol.

Un o lwyddiannau allweddol yr Hwb yw ei allu i wasanaethu nifer o randdeiliaid, gan gynnwys rhai sy'n gadael yr ysgol, prentisiaid, gweithwyr proffesiynol ynni presennol sy'n ystyried uwchsgilio, a busnesau lleol sydd angen gweithlu wedi'i hyfforddi hyd at safon uchel. Mae'r cyfleuster hefyd yn cynnig rhaglenni allgymorth i ysgolion a'r gymuned ehangach, gan godi ymwybyddiaeth ynghylch trawsnewid i ynni adnewyddadwy ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr a gweithwyr ynni proffesiynol.

Pennaeth y Coleg, Dr Barry Walters:“Hoffem ddiolch i Shell UK, Dragon LNG, Cronfa Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe a City and Guilds ynghyd â phartneriaid o'r diwydiant ac Aelodau lleol o’r Senedd, Paul Davies a Sam Kurtz, am gefnogi’r cyfleuster pwysig hwn. Bydd y cyfleuster nid yn unig yn hyfforddi dysgwyr coleg a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, ond hefyd yn cefnogi’r gymuned ac ysgolion lleol drwy roi cyfle iddynt ddeall mwy am y modd y bydd trawsnewid i ynni adnewyddadwy yn effeithio ar y ffordd rydym yn byw ac yn gweithio yn y dyfodol." Barry Walters, Pennaeth Coleg Sir Benfro

“Rwyf wrth fy modd bod cyllid Llywodraeth y DU, drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfleuster mor wych. Mae gan Sir Benfro ran bwysig i'w chwarae wrth gyflawni ein cenhadaeth i sicrhau ynni glân erbyn 2030. Bydd y cyfleuster hyfforddi hwn yn golygu y bydd pobl leol yn gallu ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael mynediad at swyddi da'r dyfodol.” Jo Stevens

Dyfyniad gan Fuddiolwr “Mae pedair blynedd diwethaf fy mhrentisiaeth wedi bod yn gwbl anhygoel. Tra'r oeddwn ar y safle, cefais y fraint o weithio gyda rhai o'r gweithwyr proffesiynol mwyaf profiadol a thalentog yn y diwydiant, ac rwyf wedi treulio un diwrnod yr wythnos yn y Coleg lle mae'r darlithwyr yn dangos yr un angerdd ac ysbrydoliaeth. Mae'r cyfuniad o waith ymarferol a dysgu damcaniaethol drwy fy nghymwysterau wedi talu ar ei ganfed. Heddiw, ar ôl mynd ar daith o amgylch yr efelychydd rheoli proses newydd anhygoel hwn, ac arbrofi gyda'r feddalwedd, rwy'n llawn cyffro am y dyfodol. Mae'r cyfleuster hwn yn gyfleuster sydd wirioneddol o'r radd flaenaf, ac mae'n mynd i godi rhaglen yn y sector ynni sydd eisoes yn rhagorol i safon sydd hyd yn oed yn uwch. Alla i ddim aros i wneud y mwyaf o'r gofod hwn wrth imi barhau i ddysgu a thyfu o fewn fy maes."  Kelly Williams, Prentis

Yn ôl Anthony Harte, Pennaeth Effaith Gymdeithasol, Shell UK: “Rydym eisiau i gynifer o bobl ag sy'n bosibl elwa ar system ynni'r dyfodol. Ac rydym yn gweld hyn yn dod yn fyw o flaen ein llygaid yn Sir Benfro, gyda'r hwb sgiliau trawsnewid i ynni newydd cyntaf. Mae hyn yn rhan o'n huchelgais i gefnogi 15,000 o bobl i gael swyddi gyda ffocws ar yr ymgyrch i drawsnewid i ynni adnewyddadwy erbyn 2035. Dyma'r cam pwysig diweddaraf i sicrhau bod trawsnewid i ynni adnewyddadwy yn cynnig cyfle i bawb."

Cydweithio a Chyllido

Cefnogir yr Hwb Sgiliau Trawsnewid i Ynni gan Shell UK a Chronfa Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a gynhelir gan Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol De-orllewin Cymru. Bu cyfranogiad y partneriaid allweddol hyn yn allweddol er mwyn gwireddu'r prosiect.

Mae'r cydweithrediad rhwng Coleg Sir Benfro, partneriaid yn y diwydiant, a rhanddeiliaid y llywodraeth yn dangos grym buddsoddi'n strategol i ddatblygu sgiliau, gan roi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i bobl ar draws y rhanbarth i gefnogi'r broses o drawsnewid i ynni adnewyddadwy. Drwy alinio darpariaeth hyfforddiant ag anghenion y diwydiant, mae'r Hwb yn sicrhau bod dysgwyr yn graddio â chymwyseddau perthnasol y ceir galw amdanynt.

Rhagolygon y Dyfodol a Chynaliadwyedd

Mae sefydlu'r Hwb Sgiliau Trawsnewid i Ynni yn gam  arwyddocaol tuag at weithlu ynni cynaliadwy a medrus. Wrth i'r DU gyflymu ei hymdrechion i gyrraedd targedau sero net, bydd mentrau fel hyn yn chwarae rhan hanfodol er mwyn sicrhau bod gweithwyr proffesiynol medrus ar gael i gefnogi'r trawsnewid.

O hyn allan, mae Coleg Sir Benfro yn bwriadu ehangu'r rhaglen, gan gynnwys egin-dechnolegau a modiwlau hyfforddi ychwanegol. Bydd ffocws allweddol yn parhau ar Dyrbinau sy'n Arnofio ar y Môr, Paneli Solar Ffotofoltäig, a thechnolegau ynni adnewyddadwy eraill y disgwylir iddynt ddatblygu yn Sir Benfro. Gallai llwyddiant y prosiect hwn hefyd fod yn fodel ar gyfer hwbiau hyfforddi tebyg ledled y DU, gan atgyfnerthu pwysigrwydd gwaith ar y cyd rhwng addysg a diwydiant er mwyn gyrru'r agenda trawsnewid i ynni adnewyddadwy yn ei blaen.

Casgliad

Mae'r Hwb Sgiliau Trawsnewid i Ynni yng Ngholeg Sir Benfro yn enghraifft arloesol o'r modd y gall addysg, diwydiant a llywodraeth gydweithio i fynd i'r afael â'r heriau'n gysylltiedig â thrawsnewid ynni. Drwy ddarparu cyfleusterau hyfforddi arloesol, mae'r Hwb nid yn unig yn paratoi unigolion am yrfaoedd ystyrlon ym maes ynni adnewyddadwy, ond hefyd yn cryfhau'r economi leol ac yn cyfrannu at nodau cynaliadwyedd ehangach y DU.

Drwy ddysgu ymarferol, partneriaethau cryf â'r diwydiant, ac ymrwymiad i uwchsgilio'r gweithlu, mae'r Hwb Sgiliau Trawsnewid i Ynni yn esiampl disglair o arloesi a chyfle. O barhau i gydweithio a buddsoddi ynddo, mae potensial iddo siapio dyfodol addysg ynni a datblygiad y gweithlu am flynyddoedd i ddod.

Dychwelyd at Sgiliau a Thalentau

Gwybodaeth am y Prosiect