Mae Bwrdd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn cael ei arwain gan Gadeirydd o’r diwydiant preifat ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr diwydiant o bob un o'r sectorau blaenoriaeth; grwpiau cyflogwyr; aelodau'r cyrff hyfforddi; asiantaethau llywodraethol a Llywodraeth Cymru (fel Sylwedyddion). Nod y Bwrdd yw gweithio gyda diwydiant a darparwyr hyfforddiant yn y rhanbarth i nodi'r bylchau o ran sgiliau sy'n ofynnol gan ddiwydiant ac i ddatblygu atebion i ddarparu'r hyfforddiant yn y rhanbarth.