Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol – De-orllewin Cymru
Ein gweledigaeth ar gyfer y PDSR yw gweithio mewn partneriaeth i yrru twf economaidd De-orllewin Cymru trwy gefnogi cyflogwyr i lunio llwybrau arloesol a chreadigol ar gyfer gweithlu cadarn. Yn ogystal, cefnogi trigolion lleol i ennill sgiliau a phrofiad i sicrhau ffyniant economaidd lleol.
Ein blaenoriaethau yw:
- Datblygu dealltwriaeth o ofynion sgiliau'r dyfodol ar draws y rhanbarth.
- Hyrwyddo cyfleoedd gyrfa a llwybrau i bawb
- Datblygu gweithlu medrus ar gyfer y rhanbarth, nawr ac yn y dyfodol.
Ein Ffocws
Mae Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-orllewin Cymru yn un o bartneriaethau rhanbarthol yng Nghymru. Prif nod y RLSP yw datblygu dealltwriaeth glir o anghenion sgiliau diwydiant nawr ac yn y dyfodol drwy ddadansoddi Gwybodaeth am y Farchnad Lafur ar gyfer De-orllewin Cymru.
Mae'r Bartneriaeth yn gweithio gyda diwydiant i nodi anghenion sgiliau a bylchau a dylanwadu ar Addysg Bellach; Addysg Uwch ac Ysgolion ar ddarparu cyrsiau a hyfforddiant i ddiwallu anghenion y diwydiant. Defnyddir yr holl dystiolaeth a'r data a gesglir i ddatblygu'r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau bob tair blynedd ar gyfer y rhanbarth, sy'n hysbysu Llywodraeth Cymru o anghenion sgiliau nawr ac yn y dyfodol.
Mae sgiliau a gweithlu parod sydd ar gael yn allweddol i dwf llwyddiannus yr economi; buddsoddi yn y rhanbarth a chynyddu cyfleoedd gwaith i'r genhedlaeth ifanc wrth iddynt adael addysg. Mae'r RLSP yn gweithio gyda'r holl fusnesau o bob sector; sefydliadau sector cyhoeddus allweddol a phartneriaethau rhanbarthol gan gynnwys Bargen Ddinesig Bae Abertawe, Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau; Ardal Fenter Port Talbot, Clwstwr Diwydiannol De Cymru a'r Porthladd Rhydd newydd.
Trwy ein gwaith gyda phartneriaid ein nod yw:
- Dylanwadu ar ddarpariaeth sgiliau ôl-16 ar draws y rhanbarth.
- Ysbrydoli cenedlaethau iau tuag at lwybrau dysgu sy'n cyd-fynd yn well â'r sectorau blaenoriaeth.
- Annog pobl heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant a chyn-droseddwyr yn ôl i'r gweithlu
- Ysgogi arloesedd trwy annog cysylltiadau cryfach rhwng diwydiant a'r ddwy brifysgol yn ein rhanbarth.
Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau
Mae'r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau yn gynllun cynhwysfawr a baratowyd ar gyfer Llywodraeth Cymru bob tair blynedd, ynghyd ag atodiadau sy'n canolbwyntio ar agweddau fel diweddariadau Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, sgiliau iaith Gymraeg, a sgiliau sydd eu hangen i ddarparu Sero Net. Nod cynllun 2022-2025 yw codi ymwybyddiaeth ac angen sgiliau Gwyrdd a Digidol i gwrdd â'r cyfleoedd buddsoddi yn y dyfodol a fydd yn cael eu cynhyrchu dros y 10 mlynedd nesaf yn y rhanbarth. Mae'r sgiliau hyn yn croesi ar draws yr holl sectorau blaenoriaeth a nodwyd ar gyfer De-orllewin Cymru a byddant yn parhau i fod dros y 10 - 15 mlynedd nesaf.
Grwpiau Clwstwr Diwydiant Blaenoriaeth y PDSR
Mae grwpiau clwstwr diwydiannau y PDSR yn fforymau diwydiant dan arweiniad cyflogwyr sy'n cyfarfod dair gwaith y flwyddyn i drafod materion sy'n ymwneud â sgiliau ym mhob sector a gynrychiolir gan y PDSR.
Mae Sectorau Blaenoriaeth RLSP yn cynnwys:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Sector Cyhoeddus
- Adeiladaeth
- Gweithgynhyrchu Uwch
- Digidol
- Ynni
- Twristiaeth, Hamdden a Manwerthu
- Rheoli Bwyd a Thir
Os ydych chi'n gyflogwr yn Ne-orllewin Cymru sydd ddim yn aelod o'n grwpiau clwstwr diwydiant eto, darllenwch ein llyfryn yma ar pam y dylech chi gymryd rhan:
https://online.flipbuilder.com/itet/mhwe/