Tîm y Bartneriaeth Dysgu A Sgiliau Ranbarthol

...

Jane Lewis

Rheolwr Partneriaethau Rhanbarthol

Mae Jane yn rheoli'r Bartneriaeth Sgiliau yn ogystal â'r Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol ar gyfer Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Mae ei rôl yn cynnwys hwyluso a datblygu newid, gweithio ar y cyd ac, yn y pen draw, gwella budd-ddeiliaid y rhanbarth er budd dysgwyr a chyflogwyr ledled y rhanbarth. Mae Jane hefyd yn arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni'r Fenter Sgiliau a Thalent o dan y Fargen Ddinas Bae Abertawe.

jelewis@carmarthenshire.gov.uk

07789 371211

...

Robert Holdcroft

Cydlynydd Datblygu

Rôl Robert yw cefnogi'r gwaith o ddatblygu a darparu'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol. Mae ei rôl yn cynnwys arwain y gwaith o ddatblygu'r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer de-orllewin Cymru. Mae Robert hefyd yn cynnal Porth Data y Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol.

rholdcroft@carmarthenshire.gov.uk

07812 475379

...

Peredur Emlyn

Swyddog Archwilio a Prosiectau

Mae Peredur yn darparu ystod o gefnogaeth i'r PDSR a'i raglen waith barhaus gan gynnwys y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol a'r Fenter Sgiliau a Thalent. Mae Peredur hefyd yn cefnogi wrth hwyluso grwpiau clwstwr diwydiant y PDSR.

PLEmlyn@carmarthenshire.gov.uk

...

Sara Nicholls

Swyddog Datblygu a Ymrwymiad Busnes

Mae Sara yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu ar gyfer y Bartneriaeth i godi ymwybyddiaeth a hysbysu rhanddeiliaid o weithgareddau y PDSR. Mae hi hefyd yn gyfrifol am ddatblygu cynnwys gwefannau a chyfryngau cymdeithasol a chynhyrchu ein e-fwletin a'n deunyddiau marchnata. Mae Sara hefyd yn chwarae rhan fawr mewn cyswllt cyflogwyr a datblygu a darparu grwpiau clwstwr diwydiant y bartneriaeth.

SMNicholls@carmarthenshire.gov.uk

Y Tîm Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe

...

Sam Cutlan

Rheolwr Rhaglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Rôl Sam yw arwain ar gyflawni'r Fenter Sgiliau a Thalent. Mae hyn yn golygu datblygu prosiectau gyda rhanddeiliaid allweddol i ddiwallu'r anghenion sgiliau ar gyfer y rhanbarth a datblygu'r llwybrau gyrfa o oedran ysgol hyd at uwchsgilio yn y gweithlu. Mae’n cymryd yr awenau ar reoli gweithrediad y rhaglen Sgiliau a Thalent o ddydd i ddydd drwy gefnogi'r Rheolwr Partneriaeth Ranbarthol ar bob agwedd, gan gynnwys datblygu prosiectau, fforymau ymgysylltu â rhanddeiliaid rheoli ariannol a risg sy’n gysylltiedig â datblygu sgiliau a thalent ar draws y rhanbarth, gan ganolbwyntio'n benodol ar anghenion sgiliau'r 8 prosiect Bargen Ddinesig arall.

scutlan@carmarthenshire.gov.uk

07815 025395

...

Leanne Roberts

Swyddog Prosiect Datblygu Sgiliau Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Mae Leanne yn gweithio gyda rhanddeiliaid ar draws y rhanbarth i ddatblygu ac i gefnogi prosiectau sy'n cyflawni canlyniadau allweddol y rhaglen Sgiliau a Thalentau. Mae Leanne yn gyfrifol am fapio'r ddarpariaeth ranbarthol, nodi cyfleoedd o ran y bwlch sgiliau ac arwain y gwaith o ddatblygu prosiectau gyda phartneriaid i fodloni'r gofynion o ran sgiliau a hyfforddiant ar gyfer wyth o raglenni'r Fargen Ddinesig.

LeaRoberts@carmarthenshire.gov.uk

...

Julian Lloyd

Swyddog Prosiect Llwybrau Gyrfa

Mae Julian yn gyfrifol am weithio gydag adrannau Addysg Awdurdodau Lleol, penaethiaid ysgolion a Gyrfa Cymru i helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd a fydd yn cael eu creu gan wyth o raglenni'r Fargen Ddinesig a helpu i ddatblygu sgiliau allweddol yn y cwricwlwm newydd mewn ysgolion.

julloyd@carmarthenshire.gov.uk

...

Enfys Stallard

Swyddog Monitro, Perfformiad ac Ansawdd

Enfys sy'n gyfrifol am reoli'r ansawdd a'r perfformiad ar gyfer y Rhaglen Sgiliau a Thalentau ac am y grantiau a weinyddir. Mae Enfys yn sicrhau bod y rhaglen yn cael ei darparu mewn modd cydymffurfiol ar gyfer y cyllidwyr ac mae'n monitro effaith y cyllid a ddyfernir drwy'r rhaglen ac yn adrodd ar y cynnydd i'r Grŵp Atebion Sgiliau ac i Fwrdd y Rhaglen.

estallard@carmarthenshire.gov.uk