Skip to main content
Sgiliau'r Dyfodol ar gyfer y Tir a'r Môr

Mae cyflwyno Cyn-Gadetiaeth Ysgol Forwrol Warsash yng Ngholeg Sir Benfro wedi darparu llwybr strwythuredig i bobl ifanc yn y rhanbarth gael ymuno â'r diwydiant morwrol. Nid yw'r rhaglen ond un o lond llaw o raglenni o'r fath yn y DU, ac mae'n galluogi dysgwyr 16 oed a throsodd i gael gwybodaeth sylfaenol am beirianneg morol ac astudiaethau morwrol, gan eu rhoi ar y trywydd iawn tuag at rolau swyddog ar fadau moethus, llongau mordaith a chwmnïau llongau mawr.

Gyda threftadaeth forwrol gyfoethog Sir Benfro a'i phroses o drawsnewid i ynni adnewyddadwy morol, mae'r rhaglen yn cyd-fynd ag anghenion sy'n codi o fewn y diwydiant. Mae'r rhanbarth yn gweld datblygiadau arwyddocaol mewn ynni gwynt a llanw ar y môr, gan greu galw newydd am weithwyr proffesiynol medrus. Drwy roi cymwyseddau hanfodol i ddysgwyr, mae'r Cyn-Gadetiaeth yn cefnogi'r trawsnewid hwn ac yn cryfhau safle Sir Benfro fel chwaraewr allweddol yn sector morwrol y DU.

Yn ddiweddar, sicrhaodd Charlie, dysgwr nodedig o'r rhaglen Cyn-Gadetiaid Peirianneg Forol Uwch, Gadetiaeth Dec Gradd Sylfaen gyda UNITY SHIPPING, a reolir gan Ship Safe Training Group (SSTG). Bydd ei raglen hyfforddi, a noddir yn llawn yn Ysgol Forwrol Warsash, yn arwain at radd FdSc mewn Gwyddor Forwrol a thystysgrif Swyddog Gwylio Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau (MCA) y DU. Mae taith Charlie yn tynnu sylw at y modd y mae'r Cyn-Gadetiaeth yn gweithredu fel carreg gamu hanfodol i yrfaoedd morwrol llawn.

Stori am lwyddiant arall yw stori Osian, y dyfarnwyd Cadetiaeth Swyddog Peirianneg Forol y Llynges Fasnach iddo wedi'i noddi'n llawn iddo gan North Star Shipping. Bydd ei hyfforddiant yn cael ei ariannu'n llawn, gan ganiatáu iddo gwblhau Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) yng Ngholeg Morwrol Warsash.

“Rwyf mor ddiolchgar am y cyfle y mae Coleg Sir Benfro wedi’i roi i mi. Mae'r rhaglen Cyn-Gadetiaeth wedi rhoi'r sgiliau technegol a'r profiad o'r diwydiant sydd eu hangen i symud i'r lefel nesaf." Osian

Mae rhanddeiliaid yn y sector morwrol hefyd wedi canmol ymdrechion Coleg Sir Benfro i baratoi gweithwyr proffesiynol ifanc am y diwydiant.

"Ers trigain mlynedd a mwy, mae'r diwydiant morwrol wedi bod wrth galon economi Sir Benfro, gan ddarparu gyrfaoedd gwerth chweil â chyflog da i filoedd o bobl. Dros y cyfnod hwn, mae gwaith parhaus i addasu'r Porthladd wedi hwyluso cyflenwad o ynni i weddill y DU a thu hwnt - yn gyntaf o betroliwm ac yn fwy diweddar o nwy - ac rydym bellach yn cychwyn oes newydd wrth inni geisio datgarboneiddio a thrawsnewid i ddyfodol Sero Net. Mae cyfleoedd cyffrous o’n blaenau, ac rydym wrth ein bodd yn partneru â Choleg Sir Benfro wrth iddo gefnogi gweithlu'r genhedlaeth nesaf i ddatblygu'r sgiliau y bydd eu hangen arnynt i gydio yn y cyfleoedd hyn â'u dwy law." Anna Malloy (Rheolwr Ymgysylltu a Chyfathrebu â Rhanddeiliaid ym Mhorthladd Aberdaugleddau)

Dychwelyd at Sgiliau a Thalentau

Gwybodaeth am y Prosiect