Sparc
Menter arloesol o dan arweiniad Coleg Sir Benfro yw Cynghrair SPARC i bontio'r bwlch rhwng addysg a diwydiant yn y sectorau ynni carbon isel ac adnewyddadwy sy'n esblygu'n gyflym. Cefnogir Cynghrair SPARC gan RWE, Blue Gem Wind, Ledwood Engineering a Phorthladd Aberdaugleddau, Bargen Ddinesig Abertawe a Chyngor Sir Penfro. Ffurfiwyd Cynghrair SPARC mewn ymateb i'r angen dybryd i annog mwy o fenywod i ddilyn llwybrau gyrfa annhraddodiadol ac i baratoi gweithlu cynhwysol ar gyfer rhanbarth y Porthladd Rhydd Celtaidd. Mae'r cynllun peilot blwyddyn gyntaf hwn wedi ymgysylltu â thros 800 o ddysgwyr ac wedi recriwtio 172 o fenywod i'r prosiect ar gyfer ymgysylltu rheolaidd.
“Mae’r prosiect hwn yn bartneriaeth gref rhwng busnes ac Addysg Bellach a fydd yn datblygu gweithlu’r dyfodol drwy greu ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar y gorwel yn Sir Benfro ac yn rhanbarth De-orllewin Cymru. Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar annog menywod i ystyried gyrfaoedd o fewn y sectorau ynni ac adeiladu, a gobeithiwn weld llawer mwy o fenywod yn manteisio ar y cyfleoedd a fydd yn cael eu creu ar draws y rhanbarth”. Jane Lewis, Rheolwr Partneriaeth Dysgu Ranbarthol.
Yn ei hanfod, nid rhaglen yn unig yw SPARC ond ymrwymiad ar y cyd i ailfframio'r naratif o amgylch gyrfaoedd ynni. Yn hytrach na chanolbwyntio'n llwyr ar swyddi 'sero net' a swyddi gwyrdd, mae SPARC yn annog myfyrwyr a chyflogwyr i feddwl yn nhermau sgiliau trosglwyddadwy, sicrwydd ynni, a mynediad cynhwysol at gyfleoedd yn y dyfodol. Drwy wneud hynny, mae'n helpu pobl ifanc, yn enwedig pobl ifanc 12–18 oed, i ddeall yn well sut mae eu diddordebau a'u rhinweddau'n cyd-fynd ag ystod eang o yrfaoedd—o ynni traddodiadol i dechnolegau gwynt ar y môr a hydrogen.
Dywed Dr Rob Hillier, Ymgynghorydd 14-19 yng Nghyngor Sir Penfro “Mae prosiect SPARC yn fenter arloesol sy’n partneru diwydiant, ysgolion a Choleg Sir Benfro. Mae wedi cael effaith glir o ran codi dyheadau ymhlith ein menywod ifanc drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ynghylch cyfleoedd gyrfa mewn diwydiannau ynni trawsnewidiol a charbon isel. Rydym yn gobeithio herio stereoteipiau rhywedd, a meithrin hyder i ddilyn llwybrau STEM a llwybrau gyrfa cysylltiedig.”
Dychwelyd at Sgiliau a Thalentau