Pa Mor Wyrdd Oedd Fy Nghwm
Mae prosiect 'Pa Mor Wyrdd Oedd Fy Nghwm' wedi cael effaith ystyrlon a chadarnhaol, gan gyflawni ei amcanion craidd yn llwyddiannus, gan gynnwys uwchsgilio addysgwyr, myfyrwyr TAR a disgyblion mewn ysgolion ledled De Cymru mewn cymwyseddau digidol wrth godi ymwybyddiaeth ynghylch Sero Net a'r economi gylchol. Mae'r prosiect, a ddefnyddiodd Minecraft ar gyfer Addysg, wedi chwarae rhan allweddol wrth greu llwybrau o addysg i sectorau allweddol fel y sector digidol, adeiladu ac ynni. Mae'r canlyniadau a gyflawnwyd eisoes wedi cael effaith barhaol, ac mae gwaith monitro parhaus wedi helpu i sicrhau bod potensial llawn y prosiect yn cael ei wireddu.
"Mae cymryd rhan yn y prosiect hwn wedi bod yn gyfle anhygoel. Mae'r sgiliau digidol rydw i a'm dosbarth wedi'u hennill, ynghyd â dealltwriaeth ddyfnach o gynaliadwyedd a Sero Net, nid yn unig wedi cyfoethogi'r ffordd rwy'n addysgu, ond wedi agor cyfleoedd dysgu newydd cyffrous i'm disgyblion. Mae wedi bod yn brofiad ysbrydoledig a gweddnewidiol." J. Thomas (Athro), Ysgol Gynradd Fodel yr Eglwys yng Nghymru, Caerfyrddin
"Er inni wynebu rhai heriau cychwynnol o ran y niferoedd a oedd yn cymryd rhan, bu modd inni symud ymlaen yn llwyddiannus â'r prosiect yn sgil yr hyblygrwydd i addasu ein model darparu i lwyfan ar-lein. Roedden ni’n gallu parhau i uwchsgilio addysgwyr a chodi ymwybyddiaeth ynghylch Sero Net, ac mae’r canlyniadau wedi bod o fudd aruthrol i addysgwyr a myfyrwyr fel ei gilydd. Mae'r ffaith bod adnoddau hyfforddi a dysgu'r llwyfan ar gael yn rhwydd i'w defnyddio gan addysgwyr Cymru wedi bod yn etifeddiaeth wych o'r prosiect." Ryan Evans, Arweinydd Prosiect, Aspire 2Be
Dychwelyd at Sgiliau a Thalentau
Gwybodaeth am y Prosiect
- Allbynnau:
- Allbynnau:
- Allbynnau:
- Allbynnau:
- Cyswllt: Dean Garza