Gyrfaoedd yn y Sector Digidol

Mae Gyrfaoedd yn y Sector Digidol wedi cyflwyno nifer o weithdai i bobl ifanc, un ohonynt yn cael eu darparu gan Stiwidio Box - cwmni darlledu sy'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau dwyieithog drwy dechnolegau cyfryngau a chleientiaid corfforaethol fel Llywodraeth Cymru, URC, S4C a'r BBC. Yn ystod y gweithdy fe wnaeth y myfyrwyr feddwl am y syniad o les a sut y gallant hyrwyddo lles cadarnhaol i'w cyfoedion gan ddefnyddio technolegau'r cyfryngau. Yn dilyn hynny, creodd y myfyrwyr eu sioe radio eu hunain a'u recordio. Gellir dod o hyd iddo yma: https://www.mixcloud.com/cymruFM/npt-academy-radio

"O'n i wrth fy modd yn recordio'r sioe radio yn y stiwdio - o'n i'n teimlo fel DJ, roedd e mor cŵl." Masey Watmore (Aelod Academi CNPT)

"Mae gen i ddiddordeb mawr yn y diwydiant ffilm a'r cyfryngau, felly fe wnes i fwynhau'r gweithgaredd clonio yn fawr. Doeddwn i ddim yn sylweddoli y gallech chi glipio'r fideos wedi'u recordio ac yna eu fflipio i greu'r effaith honno. Rwyf wedi arbed fy fideo i'm gwefan ac yn bwriadu ei ddatblygu ymhellach i mewn i ffilm fer." Kevin Carpano (Myfyriwr)

Dychwelyd at Sgiliau a Thalentau

Gwybodaeth am y Prosiect
  • Allbynnau: 170 o unigolion â sgiliau uwch yn ennill cymhwyster
  • Allbynnau: 1900 Unigolion yn elwa o fwy o ddysgu
  • Allbynnau: 1 Cyfle llwybr gyrfa newydd wedi’i ddatblygu
  • Cyswllt: Karen Thomas