Net Zero Wales
Roedd Jason yn cael ei gyflogi gan TATA Steel ac yn awyddus iawn i gynyddu ei sgiliau proffesiynol er mwyn datblygu ei yrfa a diogelu ei ddyfodol gyda'r cwmni. Cofrestrodd ar y cwrs NOW Skills i fanteisio ar ystod o gyrsiau wedi'u teilwra i'w ddiddordebau a'i nodau o ran gyrfa. Gan gydnabod yr angen i gefnogi ymgyrch TATA Steel tuag at gynaliadwyedd ac arloesedd, a sicrhau ei swydd ei hun mewn cyfnod ansicr, dewisodd Gyflwyniad i Weithrediadau Ffwrnais Arc Drydan, Dur Heb Danwydd Ffosil a Deunyddiau ar gyfer Ynni o'r gyfres o gyrsiau a oedd wedi'u hachredu'n llawn ac a oedd yn cael eu cynnig gan NOW Skills.
Drwy ei ddull cynhwysfawr o ddysgu a'r cyrsiau a ddewisodd, llwyddodd Jason i ehangu ei set sgiliau ac mae ganddo bellach ddealltwriaeth well o'r mentrau sy'n anelu i leihau effeithiau amgylcheddol ac at wella effeithlonrwydd ynni yn TATA Steel. Mae'r dyhead hwn i ddysgu a'r mynediad at gyrsiau Net Zero Wales ymarferol a hygyrch ar-lein nid yn unig wedi cefnogi ei ddatblygiad ei hun, ond hefyd wedi creu budd uniongyrchol a chadarnhaol i TATA Steel fel sefydliad, wrth iddo anelu i droi tuag at ddulliau mwy cynaliadwy o gynhyrchu dur.
“Roedd gallu astudio ar fy nghyflymder fy hun yn wych, oherwydd roeddwn i'n gallu astudio o amgylch fy swydd amser llawn. Roedd yr astudiaethau achos hefyd yn dda iawn, ac yn ddiddorol. Gwnaeth yr aseiniadau hefyd wella fy ngwybodaeth am y pynciau gan fod angen gwneud rhywfaint o ymchwil ar eu cyfer."
“Yr her fawr nesaf o flaen y diwydiant yw datgarboneiddio, ac mae'r ffocws ar sgiliau yn y maes hwn yn dyngedfennol er mwyn i Gymru lwyddo i gyflawni ei huchelgais i gyrraedd Sero Net. Cydnabyddir yn eang y bydd hi'n hanfodol nodi, datblygu a chyflwyno sgiliau yn y dyfodol er mwyn cyflawni'r dyhead i ddatgarboneiddio fel bod y gweithlu a busnesau presennol yn parhau i fod yn gystadleuol.”
Dr. Khalil Khan, Cydgysylltydd Prosiect ar gyfer Now Skills
Dychwelyd at Sgiliau a Thalentau