Sgiliau a thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe
Mae'r rhaglen Sgiliau a Thalent yn darparu ateb rhanbarthol ar gyfer nodi a chyflwyno'r gofynion sgiliau a hyfforddiant ar gyfer 8 Prosiect Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r prosiectau buddsoddi ehangach a fydd yn cael eu cynhyrchu drwy'r Fargen Ddinesig. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio'n benodol ar anghenion presennol a gofynion y dyfodol yn y sectorau blaenoriaeth canlynol:
- Iechyd a Lles
- Gweithgynhyrchu Smart
- Adeiladu Gwyrdd
- Egni
- Digidol
Gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid o'r sector preifat, addysg uwch ac addysg bellach, darparwyr hyfforddiant dysgu seiliedig ar waith, ysgolion a'r trydydd sector, mae tîm y prosiect yn y Baromedr Sgiliau wedi mapio bylchau yn y ddarpariaeth bresennol ac wedi sefydlu'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen ar gyfer myfyrwyr, athrawon a darlithwyr a'r gweithlu presennol, nawr ac yn y dyfodol.
Prosiectau Peilot
Mae'r rhaglen Sgiliau a Thalent yn cynnig cyfle i sefydliadau gan gynnwys darparwyr addysg a hyfforddiant yn y sector preifat wneud cais am gyllid i ddatblygu prosiectau peilot i uwchsgilio neu gyflwyno hyfforddiant newydd dros gyfnod o 2 flynedd. Rhaid i'r prosiectau fodloni un o'r sectorau blaenoriaeth a nodwyd a bydd angen iddynt fodloni amcanion y rhaglen.
Mae'r Rhaglen eisoes wedi cymeradwyo nifer o brosiectau peilot, dyma grynodebau i roi syniad i chi o ba brosiectau sydd wedi'u hariannu.