Wrth i ni ddechrau 2026, rydym yn canolbwyntio ar gefnogi busnesau ledled y rhanbarth i feithrin y sgilliau sydd ei hangen arnynt ar gyfer twf, arloesi, a llwyddiant tymor hir. Gyda hyn mewn golwg, rydym yn falch o wahodd eich sefydliad i ymuno â’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol (PDSR) a dod yn rhan o’n grwpiau clwstwr cyflogwyr.
Mae eich mewnwelediad fel arweinydd busnes yn hanfodol. Drwy ddod â chyflogwyr a darparwyr hyfforddiant at ei gilydd, rydym wedi creu grŵp lle gall eich llais ddylanwadu’n uniongyrchol ar gynllunio sgilliau, tynnu sylw at heriau gwirioneddol y gweithlu, a llywio datblygiad darpariaeth hyfforddiant yn y dyfodol.
Pam mae eich Llais yn Bwysig- Drwy ymuno â’n Grwpiau Clwstwr Cyflogwyr rydych yn helpu i lunio’r dirwedd sgiliau a fydd yn diffinio dyfodol ein rhanbarth.
- Rhannwch y sgiliau go iawn sydd eu hangen ar eich busnes
- Dylanwadu ar ddarpariaeth hyfforddiant i gefnogi eich gweithlu yn well
- Mynediad at gysylltiadau a chyfleoedd partneriaeth
- Helpu i lunio talent y dyfodol
Mae gan eich llais y pŵer i wneud effaith wirioneddol. Drwy ymuno a’n Grwpiau Clwstwr, byddwch yn chwarae rôl hanfodol wrth drawsnewid y tirwedd sgiliau a helpu i adeiladu gweithlu sy’n barod am y dyfodol
Postio gan Sara Nicholls
Dydd Mawrth, 13 Ionawr 2026 15:27:00