Mae’r PDSR yn falch o gyhoeddi ethol dau Gadeirydd Diwydiant newydd, a fydd yn chwarae rôl allweddol wrth lunio dyfodol sgiliau, arloesedd a datblygu’r gweithlu ledled y rhanbarth.
Mae Alex Machin o Gyngor Sir Gaerfyrddin wedi’i benodi’n Gadeirydd y Clwstwr Sector Cyhoeddus, tra mae James Owen o Stori Cymru wedi’i ethol yn Gadeirydd newydd y Clwstwr Digidol. Mae’r ddau yn dod â chyfoeth o arbenigedd yn eu sectorau a chydag ymrwymiad cryf i weithio mewn partneriaeth agos ag cyflogwyr, darparwyr addysg a phartneriaid cymunedol.
Fel Cadeiryddion Diwydiant, bydd Alex Machin a James Owen yn helpu i lywio datblygiad blaenoriaethau sector-benodol, dylanwadu ar gynllunio sgiliau rhanbarthol, a sicrhau bod llais yr cyflogwyr yn parhau yn ganolog i strategaethau gweithlu’r dyfodol. Mae’r PDSR yn croesawu’r ddau Gadeirydd i’w swyddi newydd ac yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw. Bydd eu cyfraniadau’n chwarae rhan hanfodol wrth siapio gweithlu medrus, parod ar gyfer y dyfodol, sy’n cefnogi twf economaidd a chystadleurwydd De-orllewin Cymru.
Buom yn siarad â’r ddau Gadeirydd:
Beth yw’r cyfleoedd mwyaf 'i'ch sector yn Ne Orllewin Cymru dros y blynyddoedd nesaf?
Dywedodd Alex:
“Defnyddio technolegau digidol i drawsnewid y ffordd yr ydym yn gweithio. Ond er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni sicrhau bod staff yn cael cyfleoedd i ddatblygu’r sgiliau cywir mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw. Bydd y datblygiad sgiliau hwn yn rhoi’r hyder iddynt gofleidio newid a chyfleoedd newydd.”
Dywedodd James:
“Mae AI wedi trawsnewid y sectorau digidol a chreadigol, ond nid y dechnoleg ei hun yw’r cyfle mwyaf ond sut rydym yn uwchsgilio’r gweithlu i’w meistroli. Trwy gofleidio AI yn foesegol ac yn gynhyrchiol, gallwn gael gwared ar y tasgau gweinyddol diflas ac ennill yn ôl yr amser i fod yn fwy arloesol a chreadigol.
Yn Ne Orllewin Cymru, mae gennym gyfle unigryw i’n sefydlu fel canolfan lle mae technoleg yn cwrdd â chrefft lefel uchel. Mae’n offeryn y mae’n rhaid i ni ei gofleidio nawr i sicrhau bod ein rhanbarth yn aros yn gystadleuol ac nad yw’n cael ei adael ar ôl mewn marchnad fyd-eang sy’n esblygu’n gyflym.”
Beth sy’n eich ysbrydoli’n bersonol i fod yn rhan o siapio tirwedd sgiliau’r rhanbarth?
Dywedodd Alex:
“Rwyf wedi gweithio ym maes Dysgu a Datblygu ers mwy o flynyddoedd nag y carwn ei gyfri, ac rwy’n angerddol am y cyfleoedd y gall ei ddarparu i’n pobl — ac felly i’n sefydliadau. Mae’n bwysig i mi ein bod yn rhoi cyfleoedd i bobl fod yn y gorau y gallant fod, gan eu galluogi i ddarparu’r gwasanaethau cyhoeddus y mae ein dinasyddion yn eu haeddu.”
Dywedodd James:
“Rwy’n credu’n gryf yn y dalent sydd gennym yma. Rwyf wedi astudio, byw, ac adeiladu fy musnes, Stori Cymru, yn yr un rhanbarth. Mae fy ysgogiad yn syml: rwyf eisiau sicrhau bod arbenigedd y diwydiant yn siapio’n uniongyrchol sut rydym yn datblygu talent. Fel perchennog busnes, rwy’n gweld pa mor gyflym mae technoleg ddigidol yn datblygu, ac mae’n anodd i’r byd addysg ymateb ac addasu ei gwricwlwm.
Bydd cau’r bwlch sgiliau fel bod ein strategaeth sgiliau yn adlewyrchu’r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano nawr yn gosod sylfaen y gweithlu’r dyfodol. Rwyf eisiau eirioli dros y genhedlaeth nesaf o weithwyr creadigol, gan sicrhau bod ganddynt yr offer a’r cyfleoedd i ffynnu yma yn Ne-orllewin Cymru. Os gall bachgen o Lanelli ffynnu yn y diwydiant creadigol heb orfod edrych i’r dinasoedd mawr, gall y genhedlaeth nesaf hefyd.”