Skip to main content

Sgiliau ar gyfer y dyfodol

Cynhaliodd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau ddigwyddiad un diwrnod ysbrydoledig lle daeth rhanddeiliaid allweddol ynghyd o lywodraeth, addysg, a diwydiant i archwilio dyfodol cyflogadwyedd a sgiliau yng Nghymru. Wedi'i gynllunio i sbarduno arloesedd a llwyddiant cynaliadwy mewn busnes lleol, cynigiodd y digwyddiad blatfform dynamig ar gyfer cydweithredu a mewnwelediadau. Prif neges y dydd oedd gweithio mewn partneriaeth a gwella sgiliau i ateb gofynion y dyfodol ar gyfer y rhanbarth.

Cynhaliwyd y digwyddiad yng ngwesty'r Village, Abertawe a’i agorwyd gan Mark John, Cadeirydd Grŵp Sector Preifat y Cyd-bwyllgor Corfforedig, a dynnodd sylw at bwysigrwydd partneriaethau cydweithredol wrth ysgogi twf rhanbarthol. Wedyn rhoddodd Neil Surman, Dirprwy Gyfarwyddwr Sgiliau Llywodraeth Cymru, drosolwg strategol o'r blaenoriaethau cyfredol, gan ailadrodd ymrwymiad y llywodraeth i adeiladu gweithlu sy'n barod i'r dyfodol.

Rhoddwyd y brif araith gan James Owen, Prif Weithredwr Medr, ar greu system addysg drydyddol gynhwysol yng Nghymru ac fe ganolbwyntiodd ar adolygiad y Rhaglen Brentisiaeth yn 2027. Wedyn gwnaeth Ed Tomp, Cadeirydd Bwrdd Porthladd Rhydd Celtaidd, dynnu sylw at botensial trawsnewidiol menter Porthladd Rhydd Celtaidd a'i arwyddocâd i ddatblygiad rhanbarthol.

Roedd dau weithdy rhyngweithiol yn cynnig mewnwelediadau ymarferol i dueddiadau sy'n dod i'r amlwg: Roedd "Why Should Businesses Adopt AI" yn cynnwys arbenigion o Perago, Jenkins and Davies, Code Institude a Bic Innovation, gan archwilio sut y gall deallusrwydd artiffisial roi hwb i gynhyrchiant ac arloesedd.

"Every Job is a Green Job" gan arweinwyr o Lywodraeth Cymru, Ystad y Goron a'r Academi Werdd i drafod ymgorffori cynaliadwyedd ym mhob sector.

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys dwy drafodaeth banel sy'n procio'r meddwl: “Floating Offshore Wind" a oedd yn edrych ar gyfleoedd a heriau'r sector cynyddol hwn, a’r cyfleoedd i’r gadwyn gyflenwi gan y prif brosiectau. Yr ail oedd "Empowering Everyone: Developing Skills for Net Zero Priorities" a edrychodd ar lwybrau cynhwysol i yrfaoedd gwyrdd a phwysigrwydd mynediad cyfartal i hyfforddiant.

Daeth sesiynau'r prynhawn ag ysbrydoliaeth gan Stuart Toomey o 1 Step North a gyflwynodd "Careers in 360," gan arddangos technolegau ymdrwythol ar gyfer archwilio gyrfaoedd ac ymgysylltu â chyflogwyr. Hefyd, ar ddiwedd y dydd rhoddodd Geraint Thomas o Moody Cow gyflwyniad "Get Energised!", galwad i groesawu hunangynhaliaeth mewn busnes.

Myfyriodd Rheolwr y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol Jane Lewis ar lwyddiant y digwyddiad: “Mae'n wych cael digwyddiad fel hyn i arddangos yr holl gyfleoedd cyffrous yn ein rhanbarth ac i'r holl fusnesau ddod at ei gilydd a manteisio ar gyfleoedd i rhwydweithio.”