Mae prosiect SPARC, sydd wedi derbyn £159,611 drwy raglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe, yn dathlu cyfres o wobrau cenedlaethol mawreddog sy'n tynnu sylw at ei gyfraniadau eithriadol i ddatblygu sgiliau, amrywiaeth ac arloesi yn y sector STEM ledled Cymru.
Cafodd SPARC wobr Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Flwyddyn a gwobr Canmoliaeth Uchel am Ymgyrch y Flwyddyn yng Ngwobrau Menywod mewn Busnesau Gwyrdd yn Llundain. Hefyd cafodd y prosiect ganmoliaeth bellach yn y Gwobrau Ynni Gwynt ar y Môr Byd-eang, lle cafodd Ganmoliaeth Uchel yn y categori Sgiliau a Phobl, ac yng ngwobrau STEM Cymru yng Nghaerdydd, lle cafodd ei gydnabod fel Rhaglen STEM y Flwyddyn - Canmoliaeth Uchel.
Mae prosiect SPARC yn cael ei arwain gan Goleg Sir Benfro, Cyngor Sir Penfro, a Fforwm Arfordir Sir Benfro, a'i gefnogi gan arweinwyr diwydiant gan gynnwys RWE, Blue Gem Wind, Porthladd Aberdaugleddau, Floventis, Ledwood Engineering, a'r rhaglen Sgiliau a Thalentau. Mae SPARC yn parhau i arwain y ffordd ar gyfer rhagoriaeth gynhwysol mewn addysg STEM a datblygu'r gweithlu ar gyfer menywod ifanc sy'n ymuno â'r gweithlu Gwyrdd.
Hoffai'r rhaglen sgiliau a thalentau longyfarch y prosiect, a phawb sy'n gysylltiedig ag ef ar gyflawniadau rhagorol.