Skip to main content

Gyrru Uchelgeisiau Sero Net

Roedd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol wedi cynnal digwyddiad pwysig ar 22 Mai 2025 ym Mharc y Scarlets oedd yn canolbwyntio ar yr uchelgais o gyrraedd Sero Net, a'r heriau a'r cyfleoedd sy'n perthyn i sicrhau bod cartrefi presennol yn cyrraedd safonau newydd ynghyd ag adeiladu cartrefi newydd o ansawdd da yn y dyfodol. Roedd Jack Sargeant AS; y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, wedi traddodi'r prif anerchiad, gan ddangos arwyddocâd y digwyddiad hwn wrth lunio dyfodol datblygu cynaliadwy.

Yn ystod y dydd, roedd cynrychiolwyr y diwydiant wedi clywed gan randdeiliaid allweddol, arbenigwyr a chynrychiolwyr y llywodraeth ar sut y gallent gyfrannu at lunio strategaethau ar gyfer dyfodol datblygu cynaliadwy yn ne-orllewin Cymru. Dywedodd Jonathan Morris, Cadeirydd Grŵp Adeiladu'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, "Er mwyn cyrraedd y targed Sero Net ac, yn bwysicach fyth, elwa ar y manteision economaidd lleol a fydd yn deillio ohono, mae'n rhaid i ni weithio mewn partneriaeth. Nid oes modd cyflawni hyn mewn unrhyw ffordd arall. Mae'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol wedi creu gofod lle gallwn gael sgyrsiau gonest a symud ymlaen gyda'n gilydd.”

Roedd cyfle hefyd i glywed am y contractau a'r cyfleoedd sydd ar ddod yn y 12 mis nesaf. Roedd y rhan hon yn cynnig cipolwg defnyddiol iawn ar brosiectau a chydweithio yn y dyfodol.

Cafwyd trafodaethau am hyfforddiant a sgiliau, nodi bylchau, a'r cyllid sydd ar gael. Roedd y drafodaeth wedi edrych ar strategaethau ar gyfer meithrin perthnasoedd hirdymor i wella sgiliau gweithle, er mwyn bodloni gofynion Sero Net a mynd i'r afael â'r pethau sy'n rhwystro uwchsgilio'r gweithlu.

Roedd y digwyddiad wedi bod yn gam sylweddol tuag at gyflawni Sero Net a mynd i'r afael â heriau ôl-ffitio. Roedd y cyfranogwyr wedi cynnig mewnwelediadau gwerthfawr, gan hyrwyddo ymhellach yr ymdrechion ar y cyd tuag at ddatblygu cynaliadwy. Dywedodd Jane Lewis, Rheolwr y Bartneriaeth Ranbarthol "Bydd cyfranogwyr y digwyddiad yn cael eu hannog i ymuno â'r grŵp Clwstwr Adeiladu i weithio gyda'i gilydd i gael hyd i atebion i faterion oedd wedi codi yn ystod y dydd."