Skip to main content

Dathlu Llwyddiant: Rhaglen Sgiliau a Thalentau yn ariannu prosiectau sy'n cyflawni canlyniadau rhagorol

Mae Rhaglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cynnig cyfle i sefydliadau gael gafael ar gyllid ar gyfer prosiectau peilot arloesol sy'n anelu at uwchsgilio'r gweithlu rhanbarthol ar gyfer y dyfodol. Gyda ffocws ar ddatblygu cymwysterau newydd a fframweithiau hyfforddi sy'n cael eu hysgogi gan ddiwydiant, mae'r rhaglen yn cefnogi prosiectau peilot arloesol sy'n rhedeg dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae sawl prosiect peilot cynnar bellach wedi cwblhau eu siwrneiau yn llwyddiannus, gan gynhyrchu allbynnau gwych a straeon sy'n werth eu dathlu.

Pasbort i Gyflogaeth Sir Benfro

Fel rhan o'r fenter hon, a enillodd sawl gwobr, ymunodd Coleg Sir Benfro â busnesau ynni adnewyddadwy i sefydlu fframwaith Ynni Glas-Gwyrdd. Cyflwynodd y prosiect blant ac oedolion ifanc i yrfaoedd yn y sector ynni adnewyddadwy ac fe'i haddysgwyd ar y cyd ar draws ysgolion, diwydiant a'r coleg.

  • 30 o gymwysterau wedi'u cwblhau
  • 3 fframwaith newydd/diweddaraf wedi'u datblygu
  • 1,350 o ddysgwyr wedi derbyn hyfforddiant

Codi Ymwybyddiaeth Carbon Isel a Sero Net

Dan arweiniad Cyfle, aeth y rhaglen ranbarthol hon i'r afael â'r angen cynyddol am sgiliau mewn adeiladu carbon isel. Gan weithio gydag ysgolion a cholegau, cyflwynodd ddysgwyr i dechnolegau sero net, gan sicrhau effaith ragorol:

  • 164 o swyddi newydd wedi'u creu
  • 157 o brentisiaethau wedi'u cefnogi
  •  1,124 o unigolion wedi ennill sgiliau ychwanegol

Meithrin Iechyd a Llesiant mewn Sector Digidol

Arweiniodd Ysgol Gyfun Tre-gŵyr y fenter gwyddor iechyd arloesol hon yn ysgolion Abertawe, gan gyfuno technoleg ac addysg llesiant. Trwy'r rhaglen, ymgysylltwyd yn llwyddiannus â:

• 8,000 o ddisgyblion rhwng 3 a 16 oed

Gyrfaoedd yn y Sector Digidol

Gydag arweinyddiaeth gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a chefnogaeth gan bartneriaid academaidd a phartneriaid diwydiant, mae'r prosiect gyrfaoedd digidol hwn yn paratoi dysgwyr ar gyfer rolau yn y sectorau creadigol a thechnoleg. Mae cyflawniadau'n cynnwys:

  • 183 o ddysgwyr yn ennill cymwysterau
  • 2,320 o unigolion yn cymryd rhan weithredol yn y prosiect

NOW Skills – Cymru Sero Net

Dan arweiniad Prifysgol Abertawe, cynlluniwyd y prosiect hwn i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau gwyrdd mewn gweithgynhyrchu, a chyflwynodd NOW Skills gyrsiau micro-gymwysterau i gefnogi dilyniant gyrfa yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Trwy'r peilot, rhagorwyd ar y targedau, gan gyflawni'r canlynol:

  • 83 o gymwysterau wedi'u hennill
  • 4 swydd newydd wedi'u creu
  • 9 fframwaith newydd wedi'u datblygu

How Green Was My Valley

Mae'r peilot uwchsgilio digidol arloesol hwn yn hyfforddi athrawon a myfyrwyr TAR gan ddefnyddio'r platfform poblogaidd Minecraft, gan ymgorffori themâu STEM a sero net mewn ystafelloedd dosbarth. Cyflawnodd y prosiect y canlynol:

  • 270 o athrawon a staff cymorth wedi'u huwchsgilio
  • 40 o fyfyrwyr TAR wedi'u hyfforddi mewn adeiladu digidol ac addysg sy'n canolbwyntio ar ynni

Mae'r Rhaglen Sgiliau a Thalentau yn parhau i lunio gweithlu Cymreig sy'n barod i'r dyfodol. Hoffem ddiolch i'r holl brosiectau sydd wedi cydweithio â ni - mae wedi bod yn rhyfeddol gwylio eich prosiectau yn tyfu.