Y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn Lansio "Llwybrau i'ch Dyfodol" i Ysbrydoli Dysgwyr Ifanc Ledled De-orllewin Cymru
Mae'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn falch i gyhoeddi lansiad ei chynllun ieuenctid newydd sbon, "Llwybrau i'ch Dyfodol", adnodd a grëwyd i helpu pobl ifanc ledled De-orllewin Cymru i edrych ar y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael iddyn nhw yn y rhanbarth.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol wedi gweithio'n agos gyda dysgwyr ysgol a busnesau lleol i lunio canllaw sy'n ymarferol ac yn ysbrydoledig.
Mae'r canllaw yn cynnig golwg gynhwysfawr ar y sectorau twf a'r diwydiannau sy'n dod i'r amlwg yn y rhanbarth, sgiliau y bydd galw mawr amdanyn nhw dros y blynyddoedd nesaf a'r llwybrau addysg a hyfforddiant y bydd angen i'r dysgwr eu cymryd.
Wedi'i gynllunio i fod yn addysgiadol ac yn hygyrch, mae'r canllaw wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion dysgwyr ar wahanol gamau o'u taith addysgol. P'un a yw myfyrwyr yn ystyried eu dewisiadau TGAU neu'n cynllunio eu camau nesaf ar ôl ysgol.
Bydd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn gweithio gydag ysgolion ledled De-orllewin Cymru dros y misoedd nesaf i ddosbarthu'r canllaw.
I gael rhagor o wybodaeth am "Llwybrau i'ch Dyfodol", neu i ofyn am gopïau ar gyfer eich ysgol neu'ch sefydliad, cysylltwch â smnicholls@sirgar.gov.uk