Yn 2020, arweiniodd dwy ysgol cyfrwng Cymraeg, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ac Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant y prosiect peilot cyntaf i gael ei ariannu gan Raglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Nod y prosiect oedd mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau hanfodol yn y rhanbarth drwy gynnig cyfle i fyfyrwyr gyflawni cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 mewn Peirianneg ac Astudiaethau Digidol drwy gyfrwng y Gymraeg, dyma'r rhaglen gyntaf o'i fath. Ers cael ei chymeradwyo, mae'r rhaglen wedi cofrestru cannoedd o fyfyrwyr yn llwyddiannus i ddilyn y cyrsiau lefel 2 a lefel 3 gyda llawer yn gadael yr ysgol gyda'r cymhwyster ac yn symud ymlaen i Goleg, Prifysgol neu Brentisiaethau.
Cynlluniwyd y rhaglen i roi dealltwriaeth gynhwysfawr i fyfyrwyr o'r cyfleoedd yn y sectorau peirianneg a TG. Trwy weithio'n agos gyda'r Brifysgol, enillodd myfyrwyr sgiliau ymarferol gan ddefnyddio offer o'r radd flaenaf ac maent wedi elwa ar yr ymchwil a gynhaliwyd gan y Brifysgol. Mae'r profiad ymarferol hwn o fewn yr ysgolion yn sicrhau trosglwyddiad di-dor i addysg uwch.
Mae'r rhaglen Sgiliau a Thalentau hon, a reolir gan y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, yn cefnogi prosiectau peilot sy'n gwella datblygiad sgiliau ac yn mynd i'r afael ag anghenion economaidd lleol. Bu cynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr sy'n cofrestru yn y cymwysterau hyn ar draws y ddwy ysgol. Mae tua 40% o fyfyrwyr sy'n cwblhau cyrsiau Lefel 2 yn parhau i Lefel 3, gan ddangos llwybr addysgol clir a diddordeb parhaus yn y meysydd hyn. Ers dechrau'r prosiect peilot, mae 843 o fyfyrwyr wedi cofrestru ar gymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 mewn Peirianneg ac Astudiaethau Digidol, gan ddangos bod y cyrsiau hyn yn llwyddiannus a bod galw mawr amdanynt.
Dywedodd Dr Llinos Jones, Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin "Mae Gwobrau'r Rhaglen Sgiliau a Thalentau wedi bod yn gatalydd ar gyfer newid trawsnewidiol, gan alluogi ein menter addysgol arloesol i gyrraedd uchelfannau newydd yn ein hysgolion. Mae'r cyllid hwn wedi ehangu mynediad at adnoddau dysgu hanfodol ynghyd â grymuso dysgwyr gyda sgiliau ar gyfer y dyfodol, gan feithrin twf a chyfleoedd rhanbarthol hirdymor.'
"Mae'r prosiect hwn wedi gwella'r cyfleoedd i gymaint o bobl ifanc a'u galluogi i ennill sgiliau a fydd eu hangen ar gyfer swyddi yn y rhanbarth yn y dyfodol a thu hwnt. Rydym yn llongyfarch yr ysgol ar y gwaith gwych yn enwedig wrth ddarparu'r sgiliau mawr eu hangen yn y rhanbarth. Rydym yn gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o fyfyrwyr yn cael eu hysbrydoli i ddilyn llwybrau Peirianneg a Digidol. “Jane Lewis, Rheolwr y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol.