Mae'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn falch o gydweithio ag Ysgol Dyffryn Aman yn Rhydaman i lansio rhaglen beilot o ran profiad gwaith ar gyfer disgyblion Blwyddyn 10 ym mis Medi. Nod y prosiect arloesol hwn yw darparu profiad gwaith parhaus ac ystyrlon dros gyfnod o chwe wythnos gyda phobl ifanc yn gweithio ar broblem go iawn yn y gweithle. Mae'r rhaglen beilot wedi cael eiariannu drwy raglen sgiliau a thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
Mae nifer fawr o gyflogwyr lleol wedi ymuno â'r fenter, gan sicrhau y bydd pawb sy'n cymryd rhanyn elwa ar y rhaglen beilot hon. Bydd taith y dysgwyr yn cael ei dilyn gyda diweddariadau rheolaidd ar eu cynnydd.
Prif nod yprosiect yw cefnogi pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau a'r talentau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn y dyfodol. Mae'r rhaglen hefyd yn cefnogi cyflogwyr iymgysylltu â darparwyr addysg a hyfforddiant, gan gynnig cyfleoedd profiad gwaith o ansawdd uchel i bobl ifanc.
Mae busnesau sy'nrhan o'r prosiect hwn yn cynnwys:
- Ammanford Leisure Centre
- Coaltown Coffee
- The Geleteria
- The Coop
- Ammanford Library
- Trading standards
Os hoffech fod ynrhan o'r ail raglen beilot, mae croeso ichi gysylltu -
Julian Lloyd - julloyd@carmarthenshire.gov.uk
Postio gan Sara Nicholls
Dydd Iau, 14 Tachwedd 2024 09:39:00