Drwy wrando ar ofynion sgiliau a hyfforddiant penodol busnesau lleol,rydym wedi llwyddo i ddyrannu cyllid Sgiliau a Thalentau i amrywiaeth obrosiectau sy'n cael effaith. Gwyliwch y fideo i ddysgu rhagor am y prosiectau sydd wedi derbyn cyllidgennym ni a gweld yn uniongyrchol yr effaith gadarnhaol ar ein rhanbarth.
Nod rhaglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe yw darparu atebion i lenwi'r bylchau o ran sgiliau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn ne-orllewin Cymru. Mae'r rhaglen yn gydweithrediad rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus gydag enghraifft wych o brosiectau peilot i ddiwallu'r anghenion a nodwyd o ran sgiliau.
Mae'r prosiectau peilot yn deillio o adborth uniongyrchol gan gyflogwyr yn y rhanbarth sydd wedi tynnu sylw at yr angen am sgiliau penodol yn eu gweithlu drwy ein grwpiau clwstwr diwydiant a thrwy arolwg y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol.
Mae'r tîm wedi bod yn rhagweithiol drwy weithio gyda busnesau a sefydliadau lleol i ddatblygu rhaglenni hyfforddi wedi'u teilwra, a hynny nid yn unig i wella sgiliau gweithwyr presennol ond hefyd i ddarparu hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer gweithlu'r dyfodol.
Rydym wedi bod yn brysur yn ymweld â'r prosiectau ac yn gweld yr hyn y maent yn ei gynnig, ac roeddem am rannu eu straeon gyda chi.
Mae'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol yma i wrando ar anghenion ein cyflogwyr ac ymateb drwy roi atebion effeithiol. Os oes gennych chi syniad am brosiect peilot ar gyfer eich sector, cysylltwch â ni.