Skip to main content

Ton Deallusrwydd Artiffisial yn Dechrau Ail-lunio Swyddi – De-orllewin Cymru yn Paratoi am Newid

Awtomeiddio yn Ail-lunio Gweithleoedd y DU

Mae pob sector diwydiant yn mabwysiadu deallusrwydd artiffisial (modelau iaith mawr (LLMs)) a roboteg yn gyflym i hybu effeithlonrwydd, sy'n aildrefnu cymwyseddau swyddi ac, mewn llawer o rolau, mae disodli gweithwyr yn bryder cynyddol. Mae hwn yn offeryn newydd i bob diwydiant ei ddefnyddio. Fel unrhyw offeryn, bydd arno angen sgiliau i ffurfweddu a gweithredu yn y modd mwyaf effeithiol. A yw'r rhanbarth yn barod i fanteisio i'r eithaf ar hyn? Mae'r archwiliad manwl hwn yn ystyried hyn.

Bwlch Sgiliau yn Rhoi Pobl Ifanc mewn Perygl

Nid yw llawer o bobl ifanc yn cael y wybodaeth ddigidol sydd ei hangen i addasu'r offer newydd hyn i'w bywydau gwaith ac nid ydynt yn gwybod llawer am y swyddi y bydd y dechnoleg hon yn eu creu yn y dyfodol. A ddylai ein system addysg fod yn ymaddasu i ddefnyddio offer LLM newydd a datblygu sgiliau craidd, fel llythrennedd digidol, meddwl yn feirniadol a hyblygrwydd, drwy gydol addysg i ddiogelu eu gyrfaoedd yn y dyfodol?

Y Darlun Presennol

Mae cyflogwyr ledled Cymru yn dechrau gweld deallusrwydd artiffisial – yn enwedig modelau iaith mawr (LLMs) fel sgyrsfotiau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol – yn ailstrwythuro'r farchnad swyddi yn dawel. Mae data cynnar o 2025–2026 yn dangos bod rhai rolau yn cael eu dileu'n raddol wrth i gwmnïau awtomeiddio tasgau arferol, hyd yn oed wrth i swyddi newydd sy'n canolbwyntio ar dechnoleg gael eu creu.

Mae cwmnïau lleol a chyrff y Llywodraeth yn ymateb drwy ymgyrchoedd uwchsgilio i sicrhau nad yw gweithlu'r rhanbarth yn cael ei adael ar ôl, ond a yw'r prosesau hyn yn cael yr effaith a ddymunir ac a oes angen i'r system addysg a chyngor gyrfaoedd esblygu i baratoi gweithwyr cenedlaethau’r dyfodol yn well ar gyfer y newid strwythurol hwn yn y farchnad swyddi?

Sectorau a swyddi sy'n teimlo'r effaith:

Diwydiannau coler wen a gwasanaeth sydd wedi nodi'r nifer mwyaf o achosion o ddisodli gweithwyr oherwydd deallusrwydd artiffisial hyd yn hyn. Mae rolau gweinyddol, clerigol a chymorth ar frig y rhestr o swyddi sydd mewn perygl wrth i offer deallusrwydd artiffisial gymryd drosodd gwaith mewnbynnu data, prosesu dogfennau a thasgau swyddfa arferol.

Mae gwasanaeth cwsmeriaid yn faes arall yr effeithir arno: mae llawer o gwmnïau wedi cyflwyno sgyrsfotiau a chynorthwywyr deallusrwydd artiffisial i ymdrin ag ymholiadau gan gwsmeriaid, sy’n lleihau'r angen am dimau mawr mewn canolfannau galwadau. Ym maes cyllid a gwasanaethau proffesiynol, mae dadansoddwyr ac ymchwilwyr iau yn gweld rhannau o'u gwaith (fel ysgrifennu drafft cyntaf neu dasgau hidlo data) yn cael eu hawtomeiddio gan ddeallusrwydd artiffisial, sy'n annog rhai cwmnïau i arafu wrth benodi i’r swyddi hynny.

Ym maes gweithgynhyrchu a logisteg, mae awtomeiddio a arweinir gan ddeallusrwydd artiffisial yn cyflymu. Er enghraifft, mae roboteg wedi'i rheoli gan ddeallusrwydd artiffisial yn dechrau cyflawni dyletswyddau warws a dosbarthu ailadroddus, gan roi swyddi fel gweithredwyr peiriannau a gyrwyr dosbarthu dan bwysau.

Sector

Swyddi sy'n cael eu Disodli

Rolau Newydd yr Oes Deallusrwydd Artiffisial sy'n dod i'r amlwg

Swyddi Swyddfa a Gweinyddu

Clercod, ysgrifenyddion, staff mewnbynnu data sy'n colli tasgau yn sgil gwaith prosesu dogfennau ac amserlennu wedi'i reoli gan ddeallusrwydd artiffisial.

Cydgysylltwyr awtomeiddio; Cymorth Gweithrediadau Deallusrwydd Artiffisial sy'n goruchwylio meddalwedd ar gyfer tasgau gweinyddol.

Gwasanaeth Cwsmeriaid

Asiantiaid canolfan alwadau a chynrychiolwyr cymorth sy'n cael eu disodli neu eu cynorthwyo gan sgyrsfotiau a desgiau cymorth deallusrwydd artiffisial (e.e. roedd deallusrwydd artiffisial Klarna wedi ymdrin â gwaith 700 o asiantiaid).

Hyfforddwyr Sgyrsfotiau a Dylunwyr Cynnwys sy'n sicrhau bod ymatebion deallusrwydd artiffisial yn gywir; Arweinwyr Profiad Cleientiaid Deallusrwydd Artiffisial i integreiddio botiau i dimau dynol.

Trafnidiaeth a Logisteg

Codwyr a didolwyr warws wedi'u hategu gan robotiaid annibynnol (e.e. robotiaid didoli DPD a arweinir gan ddeallusrwydd artiffisial). Yn y tymor hir, mae gyrwyr yn wynebu technoleg hunan-yrru.

Technegwyr cynnal a chadw robotiaid (trydanol a mecanyddol); Dadansoddwyr Fflyd Deallusrwydd Artiffisial sy'n optimeiddio llwybrau ac yn rheoli systemau awtomataidd.

Cyllid ac Yswiriant

Dadansoddwyr iau, clercod tanysgrifennu a chlercod banc wrth i ddeallusrwydd artiffisial awtomeiddio gwaith dadansoddi data, adrodd a rhyngweithio â chwsmeriaid.

Arbenigwyr Risg a Chydymffurfiaeth deallusrwydd artiffisial i fonitro algorithmau; Arweinwyr Cynnyrch Technoleg Ariannol sy'n canolbwyntio ar wasanaethau sy'n cael eu rheoli gan ddeallusrwydd artiffisial.

Gwasanaethau Technoleg a TG

Rhaglenwyr lefel mynediad a chymorth TG wrth i ddeallusrwydd artiffisial sy'n cynhyrchu codau a monitro awtomataidd leihau tasgau codio/gwaredu bygiau â llaw.

Dyfeiswyr Ymholiadau sy'n optimeiddio allbynnau LLM; Rheolwyr Cynnyrch Deallusrwydd Artiffisial a Phrif Swyddogion Deallusrwydd Artiffisial sy'n sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn gyson â nodau busnes.

Corfforaethau mawr sy'n gosod y tueddiadau awtomeiddio:

“Y genhedlaeth hon o ddeallusrwydd artiffisial yw'r dechnoleg fwyaf trawsnewidiol rydyn ni wedi'i gweld ers y rhyngrwyd," ysgrifennodd, Beth Galetti, pennaeth Adnoddau Dynol Amazon mewn memo ym mis Hydref 2025, gan gyhoeddi miloedd o ddiswyddiadau. Amazon oedd un o'r cwmnïau mawr cyntaf i nodi'n benodol fod Deallusrwydd Artiffisial yn rheswm dros doriadau swyddi, gan ddileu tua 14,000 o rolau corfforaethol yr hydref diwethaf i symleiddio gweithrediadau a rhyddhau cyllideb i fuddsoddi mewn deallusrwydd artiffisial. Dywedodd Andy Jassy, y Prif Swyddog Gweithredol, wrth y staff y bydd ar y cwmni angen "llai o bobl yn gwneud rhai o'r swyddi sy'n cael eu gwneud heddiw, a mwy o bobl yn gwneud mathau eraill o swyddi", wrth i ddeallusrwydd artiffisial awtomeiddio tasgau penodol ac wrth i fentrau technoleg newydd ehangu. Yn benodol, roedd llawer o'r rolau a ddilëwyd yn swyddi swyddfa haen ganol mewn meysydd fel adnoddau dynol a gwasanaethau cymorth y gall meddalwedd deallusrwydd artiffisial eu disodli'n rhannol, er na chafodd gweithwyr warws eu heffeithio gan doriadau diweddar Amazon. "Ni all robotiaid wneud yr hyn y mae dwylo yn ei wneud eto", fel y nododd un dadansoddwr diwydiant, gan bwysleisio’r ffaith bod logisteg reng flaen a swyddi dosbarthu yn parhau i fod yn ddiogel yn y tymor byr, ond mae'r sylw yn awgrymu nad yw'r dechnoleg yn bell i ffwrdd ac, o ystyried bod Amazon yn honni bod ganddo bellach dros 1 filiwn o robotiaid mewn gweithrediadau warws, disgwylir mai'r swyddi hyn fydd y targed nesaf.

Mae cwmnïau mawr eraill yn dilyn ei esiampl. Mae'r cawr telathrebu, BT, er enghraifft, wedi dechrau defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i gynorthwyo â chymorth i gwsmeriaid drwy ei gynorthwyydd digidol, "Aimee", ar rwydwaith ffonau symudol EE, gan ymdrin â 60,000 o sgyrsiau yr wythnos, ac mae'n gweld potensial i leihau'r gweithlu ymhellach wrth i ddeallusrwydd artiffisial wella. (Roedd BT eisoes wedi cyhoeddi 55,000 o doriadau swyddi erbyn 2030 i arbed costau; yn 2025, dywedodd ei Brif Swyddog Gweithredol fod datblygiadau o ran deallusrwydd artiffisial yn golygu y gallai'r cwmni "fod hyd yn oed yn llai" nag a gynlluniwyd erbyn diwedd y degawd).

Ym maes cyllid, mae HSBC a banciau eraill bellach yn cyflogi cynorthwywyr sgwrsfot deallusrwydd artiffisial mewn bancio ar-lein ac yn symleiddio prosesau cefn swyddfa drwy ddeallusrwydd artiffisial, gan effeithio ar rai rolau clerigol (er eu bod yn aml yn symud staff i swyddi cynghori yn hytrach na'u diswyddo'n llwyr).

Yn y sector hedfan, dileodd Lufthansa 4,000 o swyddi gweinyddol yn 2025, gan nodi'n benodol welliannau o ran effeithlonrwydd sy’n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial yn ei weithrediadau. Mae hyd yn oed cwmnïau technoleg eu hunain yn ad-drefnu. Er enghraifft, torrodd Salesforce 4,000 o swyddi gwasanaeth cwsmeriaid ar ôl nodi y gallai ei offer deallusrwydd artiffisial newydd ymdrin â hyd at "50% o'r gwaith cymorth”.

Ar y llaw arall, mae penodiadau newydd sy'n canolbwyntio ar dechnoleg yn cynyddu; mae Amazon, IBM ac eraill sydd wedi lleihau rhai timau wedi ehangu eu hadrannau deallusrwydd artiffisial ar yr un pryd. Digwyddodd diswyddiadau Amazon wrth iddo gynyddu gwariant ar ddatblygwyr a dyfeiswyr deallusrwydd artiffisial. Yn yr un modd, datgelodd IBM fod systemau deallusrwydd artiffisial wedi disodli tua 800 o rolau adnoddau dynol a chefn swyddfa, ond hefyd ei fod wedi "creu swyddi newydd ym maes gwerthu a marchnata"  i hybu ei gynnyrch sydd wedi'i bweru gan ddeallusrwydd artiffisial. Yn fyr, mae busnesau yn ailgydbwyso eu gweithlu: dileu rolau sy'n ddiangen yn sgil deallusrwydd artiffisial, gan ychwanegu rolau sy'n datblygu neu'n manteisio ar ddeallusrwydd artiffisial.

Swyddi Newydd mewn Economi Deallusrwydd Artiffisial:

Yn hytrach na dileu gwaith yn unig, mae twf deallusrwydd artiffisial yn creu swyddogaethau gwaith hollol newydd. Yn 2025 a 2026, mae cwmnïau wedi bod yn penodi i swyddi nad oeddent prin yn bodoli ychydig flynyddoedd yn ôl, sef tuedd y disgwylir iddi gyflymu. Un rôl a drafodir yn helaeth yw "Dyfeisydd Ymholiadau", sef arbenigwr mewn llunio a mireinio'r ymholiadau a'r cyfarwyddiadau a roddir i LLMs i gael y canlyniadau gorau posibl. Yn fyd-eang, mae'r galw am ddyfeiswyr ymholiadau wedi cynyddu, ac mae systemau tracio swyddi yn dangos twf tri digid mewn cyfleoedd o'r fath, wrth i gwmnïau chwilio am arbenigwyr i fireinio ymatebion sgyrsfotiau deallusrwydd artiffisial ac atal gwallau. Mae rolau moeseg a diogelwch deallusrwydd artiffisial hefyd yn dod i'r amlwg. Mae llawer o sefydliadau mwy bellach yn cyflogi Moesegwr Deallusrwydd Artiffisial neu Arweinydd Cyfrifol Deallusrwydd Artiffisial i sicrhau bod penderfyniadau awtomataidd yn parhau i fod yn deg a chydymffurfio â'r rheoliadau.

Ym maes data, mae rolau fel Curaduron Data Deallusrwydd Artiffisial a Hyfforddwyr Deallusrwydd Artiffisial wedi codi, gan ganolbwyntio ar fwydo data o safon ac adborth i systemau deallusrwydd artiffisial i wella eu perfformiad. Ac wrth i fusnesau integreiddio deallusrwydd artiffisial i gynnyrch a strategaethau, mae rolau hybrid yn pontio technoleg a busnes; er enghraifft, Rheolwyr Cynnyrch Deallusrwydd Artiffisial, sy'n arwain nodweddion a reolir gan ddeallusrwydd artiffisial, neu Brif Swyddogion Deallusrwydd Artiffisial mewn rhai cwmnïau, sy'n gosod y cyfeiriad o ran deallusrwydd artiffisial ar draws y cwmni. Hyd yn oed ym maes marchnata a chreu cynnwys, mae rolau creadigol hybrid yn gofyn am weithio gydag offer deallusrwydd artiffisial: er enghraifft, Arbenigwyr Cynnwys Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, sy'n defnyddio offer i gynhyrchu copïau marchnata neu ddyluniadau, a Dylunwyr Profiad Defnyddwyr Deallusrwydd Artiffisial, sy'n llunio profiadau defnyddwyr o amgylch allbynnau deallusrwydd artiffisial. Mae llawer o'r swyddi newydd hyn yn manteisio ar gryfderau pobl (goruchwyliaeth strategol, creadigrwydd, barn foesegol) i ategu canlyniadau deallusrwydd artiffisial, sy'n adlewyrchu'r consensws y bydd cydweithio rhwng pobl a deallusrwydd artiffisial yn diffinio gweithleoedd llwyddiannus. Mae Fforwm Economaidd y Byd yn rhagweld y bydd 170 miliwn o swyddi newydd yn fyd-eang ym maes technoleg a deallusrwydd artiffisial erbyn 2030 a fydd yn fwy na gwrthbwyso'r 92 miliwn o rolau y gallai deallusrwydd artiffisial eu disodli. Yn y DU, mae modelu'r Llywodraeth hefyd yn rhagweld bron i 4 miliwn o swyddi newydd sy'n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial erbyn 2035, os bydd gweithwyr yn ennill y sgiliau i'w llenwi.

Ailsgilio'r Gweithlu:

Gan gydnabod yr hyn sydd yn y fantol, mae llywodraethau a darparwyr hyfforddiant yn rhuthro i ymaddasu. Yng Nghymru, nod cynllun gweithredu ynghylch sgiliau deallusrwydd artiffisial a lansiwyd ddiwedd 2025 yw rhoi sgiliau i bobl yng Nghymru er mwyn iddynt allu ffynnu mewn byd sy’n cael ei bweru gan ddeallusrwydd artiffisial. Mae Cynllun AI i Gymru Llywodraeth Cymru yn nodi'r buddsoddiadau mewn addysg ac uwchsgilio, o ddiweddaru cwricwla ysgolion gyda phynciau fel dyfeisio ymholiadau a moeseg data i ariannu cyrsiau ailhyfforddi oedolion mewn sgiliau digidol. Mae'r cynllun yn dangos bwlch sgiliau sylweddol o ran deallusrwydd artiffisial yn y farchnad lafur ac yn galw am fentrau dysgu gydol oes, fel y gall gweithwyr drosglwyddo o swyddi sy'n lleihau i rai sy'n dod i'r amlwg. Mae'r ymgyrch hon yn cyd-fynd â galwadau gan gyrff diwydiant: mae'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu yn rhybuddio bod ar y DU angen "ymgyrch genedlaethol i ailhyfforddi ac uwchsgilio" pobl sydd mewn perygl o gael eu disodli gan ddeallusrwydd artiffisial (yn enwedig swyddi iau) er mwyn osgoi gadael rhannau o'r gweithlu ar ôl.

Parodrwydd Addysg: Paratoi pobl ifanc ar gyfer swyddi yn y dyfodol

Fodd bynnag, nid yw'r holl fentrau hyn yn treiddio i system addysg strwythuredig ar hyn o bryd, neu maent newydd gael eu mabwysiadu. Yn ogystal, ymddengys bod yr ymyriadau hyn yn ymyriadau sgiliau deallusrwydd artiffisial penodol, ac ychydig iawn sydd ar gael ynghylch sut i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial fel offeryn mewn swyddi presennol.

Dywedodd Ymddiriedolaeth y Brenin nad yw 37 y cant o bobl ifanc yn y DU yn astudio pwnc digidol neu dechnolegol ar ôl 14 oed, gan rybuddio am "argyfwng sgiliau digidol" ymhlith pobl ifanc Prydain, ac mae BCS (Sefydliad Siartredig TG) yn nodi mai dim ond tua 18% o ddisgyblion Blwyddyn 11 yng Nghymru a astudiodd bwnc digidol penodol ar lefel TGAU, a bod nifer y myfyrwyr TGAU Cyfrifiadureg wedi gostwng 9% yn 2025.

Mae cyflymder y newid yn y gweithle, ynghyd â nifer pryderus o isel y myfyrwyr sy'n astudio Cyfrifiadureg ar lefel TGAU, wedi codi cwestiynau brys ynghylch parodrwydd system addysg Cymru ac awydd dysgwyr i fod yn barod am swyddi'r dyfodol.

Mae deallusrwydd artiffisial yn prysur ddod yn offeryn sylfaenol a ddefnyddir ochr yn ochr â bron pob swydd. Bydd angen i bobl ifanc ddeall fwyfwy sut i weithio gyda'r dechnoleg hon, nid cystadlu yn ei herbyn. Ond mae'r diffyg ymwneud hwn yn golygu bod llawer o bobl sy'n gadael yr ysgol yn parhau i fod yn anymwybodol o'r cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg mewn meysydd fel swyddi a alluogir gan ddeallusrwydd artiffisial, dadansoddeg data, awtomeiddio, dyfeisio a seiberddiogelwch, neu nad ydynt yn barod amdanynt. Wrth i'r dirwedd gyflogaeth ddatblygu'n gyflym, rydym yn creu perygl y bydd pobl ifanc yn cael eu cloi allan o'r economi, neu y bydd eu sgiliau yn cael eu datblygu hyd at lefel sy'n eu gadael yn agored i gael eu disodli gan ddeallusrwydd artiffisial yn y dyfodol, gan fethu â gwireddu manteision llawn economi a arweinir gan dechnoleg. Yn fyr, mae bwlch cynyddol o hyd rhwng yr hyn y bydd y farchnad lafur yn gofyn amdano a'r hyn y mae llawer o bobl ifanc yn ei ddysgu ar hyn o bryd.

Er mwyn cau'r bwlch hwn, mae llunwyr polisi ac addysgwyr yn cefnogi pwyslais cryfach ar arweiniad ynghylch sgiliau a gyrfaoedd y dyfodol mewn ysgolion. Mae Siambrau Masnach Prydain, er enghraifft, wedi galw am strategaeth sgiliau genedlaethol "sefydlog a chydlynol" i sicrhau bod pob myfyriwr yn gadael y system addysg gyda llythrennedd digidol sylfaenol a sgiliau trosglwyddadwy allweddol sydd eu hangen yn y gweithle modern. Mae hyn yn golygu sicrhau hyfedredd mewn pynciau craidd fel TG a data, ochr yn ochr â hanfodion llythrennedd a rhifedd. Yr un mor bwysig, mae Siambrau Masnach Prydain ac arbenigwyr eraill yn pwysleisio bod yn rhaid i gyngor gyrfaoedd o safon uchel fod ar gael i bob myfyriwr, fel y gall wneud penderfyniadau gwybodus am hyfforddiant a swyddi mewn economi sy'n newid. Mae gan ymgynghorwyr gyrfaoedd rôl hanfodol i'w chwarae drwy sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau diwydiant (er enghraifft, twf swyddi sy'n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial neu'r galw am sgiliau technoleg werdd), a throsglwyddo'r wybodaeth honno. Gall ymgynghorwyr arwain pobl ifanc tuag at feysydd sy'n dod i'r amlwg a'r cymwysterau neu'r prentisiaethau a fydd yn bwysicaf.

Yn ddelfrydol, dylai pob ysgol uwchradd a choleg feddu ar adnoddau gyrfaoedd pwrpasol i roi myfyrwyr mewn cysylltiad â gwybodaeth am lwybrau swyddi newydd a defnyddio technoleg newydd ochr yn ochr â swyddi presennol, o brentisiaethau deallusrwydd artiffisial, graddau technegol a hyfforddiant galwedigaethol mewn crefftau uwch-dechnoleg i ddefnyddio offer ategol yn gywir i wella effeithlonrwydd.

Mae camau cadarnhaol i'r cyfeiriad hwn; er enghraifft, mae menter newydd "TechFirst" Llywodraeth y DU yn buddsoddi £187 miliwn i gyflwyno rhaglenni deallusrwydd artiffisial a sgiliau digidol i ysgolion, gyda'r nod o gyrraedd miliwn o ddisgyblion a'u hysbrydoli yn gynnar i ddilyn gyrfaoedd ym maes technoleg. Mae ymdrechion o'r fath, ynghyd â phartneriaethau â diwydiant, yn ceisio sicrhau bod y genhedlaeth nesaf wedi'i harfogi'n well ar gyfer realiti economi awtomataidd sydd wedi'i gwella gan ddeallusrwydd artiffisial.

Sgiliau Trosglwyddadwy Craidd: Yn ogystal â gwybodaeth dechnegol, mae addysgwyr a chyflogwyr fel ei gilydd yn pwysleisio y bydd pobl ifanc yn elwa fwyaf o ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy cryf, y cymwyseddau hyblyg sy'n parhau i fod yn werthfawr ar draws gwahanol swyddi a sectorau, yn enwedig wrth i dechnoleg ddatblygu. Ymhlith y prif flaenoriaethau y mae galluoedd meddwl yn feirniadol a datrys problemau, sy'n galluogi unigolion i weithio ochr yn ochr â deallusrwydd artiffisial drwy arfer barn, creadigrwydd, a gwneud penderfyniadau cymhleth, nad yw'n hawdd i gyfrifiaduron eu hefelychu. Yn yr un modd, mae hyblygrwydd a pharodrwydd i barhau i ddysgu yn nodweddion hanfodol mewn oes pan mae offer a llifau gwaith newydd yn ymddangos yn gyflym.

Bydd y gallu i gaffael sgiliau newydd yn barhaus (a elwir yn aml yn ddysgu gydol oes neu'n ystwythder dysgu) yn helpu gweithwyr i ymaddasu wrth i rai swyddi newid neu hyd yn oed ddiflannu. Mae sgiliau cryf o ran cyfathrebu a gwaith tîm hefyd yn hanfodol, gan y bydd llawer o swyddi yn cynnwys cydweithio mewn timau amlddisgyblaethol a dehongli data neu allbynnau deallusrwydd artiffisial i lywio penderfyniadau pobl. Mae nodweddion gwerthfawr eraill yn cynnwys creadigrwydd ac arloesedd (i ddyfeisio atebion a dulliau newydd ochr yn ochr â pheiriannau deallus), a gwytnwch yn wyneb newid.

Yn benodol, mae llythrennedd digidol ei hun yn sgìl trosglwyddadwy: bydd deall sut i ddefnyddio cyfrifiaduron, data ac offer digidol yn effeithiol yn ofyniad sylfaenol ym mron pob llwybr gyrfa. Drwy feithrin y cyfuniad hwn o sgiliau technegol a sgiliau meddal, gall pobl ifanc "ddiogelu" eu gyrfaoedd rhag y dyfodol yn well. Byddant wedi'u harfogi nid yn unig i lenwi'r swyddi y mae galw amdanynt heddiw, ond i ymaddasu i swyddi yfory, gan leihau'r risg y bydd eu dewisiadau gyrfa yn ddiangen, a'u grymuso i ffynnu yng nghanol newid technolegol.

Yn Ne-orllewin Cymru, mae'r strategaethau lefel uchel hyn yn cael eu troi’n rhaglenni ar lawr gwlad. Mae'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol wedi cyflwyno menter Sgiliau ar gyfer y Gweithle, sy’n werth £5.5 miliwn, gyda chefnogaeth Bargen Ddinesig Bae Abertawe, i ddarparu cyrsiau hyfforddi newydd mewn meysydd fel technoleg ddigidol, awtomeiddio a dadansoddeg data. Gan ddechrau ddiwedd 2025, mae pedwar coleg lleol (Coleg Gŵyr, Coleg Sir Benfro, Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Sir Gâr) yn cynnig cyrsiau uwchsgilio a ariennir yn rhannol (Lefel 3–5) sydd wedi'u cynllunio ar gyfer unigolion a chyflogwyr, boed yn weithiwr proffesiynol ifanc sy'n ychwanegu sgiliau deallusrwydd artiffisial neu'n weithiwr hŷn sy'n pontio o ddiwydiant sy'n crebachu. “Mae De-orllewin Cymru yn gweld twf mewn sectorau fel ynni adnewyddadwy, gweithgynhyrchu, adeiladu, technolegau digidol, a gofal iechyd," nododd y Bartneriaeth, ac wrth i'r diwydiannau hyn ddatblygu, nod y rhaglen yw "paratoi busnesau lleol drwy’r hyfforddiant sydd ei angen i barhau'n gystadleuol.” Yn bwysig, mae busnesau yn cael eu hannog (ac yn cael cymhorthdal) i ailhyfforddi staff presennol ar gyfer swyddi newydd yn hytrach na phenderfynu eu diswyddo.

Mae cyflogwyr rhanbarthol hefyd yn creu partneriaethau â phrifysgolion a mentrau, fel y Cymoedd Technoleg a Chynhwysiant Digidol Cymru, i sicrhau'r cyflenwad talent ar gyfer swyddi'r oes deallusrwydd artiffisial. Ac, ar draws y DU, mae cymhellion yn cael eu rhoi ar waith, fel Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Deallusrwydd Artiffisial Llywodraeth y DU 2025, sy'n cynnwys cyllid ar gyfer cyrsiau newydd ar drawsnewid i ddeallusrwydd artiffisial a gwyddor data i helpu gweithwyr o feysydd eraill i symud i dechnoleg, a chynllun prentisiaethau wedi'i ddiweddaru sy'n canolbwyntio ar sgiliau deallusrwydd artiffisial.

Rhagolygon:

I gwmnïau yn Ne-orllewin Cymru, mae'r neges yn glir: nid yw'r chwyldro deallusrwydd artiffisial bellach yn haniaethol nac yn bell i ffwrdd. Eisoes, mae penodi i swyddi lefel mynediad yn arafu mewn meysydd uwch-dechnoleg ac mae rhai swyddi cymorth yn cael eu cyfuno wrth i systemau deallusrwydd artiffisial ymdrin â mwy o dasgau. Ond, yn yr un modd, mae cyfleoedd newydd ar gael i'r rhai sydd â chymwyseddau craidd cryf, hyblygrwydd a chreadigrwydd.

Mae economegwyr yn dweud bod y DU mewn "cyfnod pontio" yn hytrach na symud yn gyflym: “Mae disodli gweithwyr yn wir ond yn anghyson... ac mae'n digwydd ochr yn ochr â chynnydd mewn cynhyrchiant a allai greu swyddi newydd yn y pen draw", canfu un astudiaeth ddiweddar o'r farchnad lafur. Yr her a'r cyfle i fusnesau a gweithwyr yw llywio'r cyfnod pontio hwnnw. Mae arweinwyr diwydiant lleol yn awgrymu canolbwyntio ar sgiliau sy'n rhoi "mantais ddynol" (meddwl yn greadigol, hyblygrwydd, galluoedd rhyngbersonol) sy'n ategu deallusrwydd artiffisial, gan fanteisio ar y nifer cynyddol o raglenni ailsgilio. Drwy fentrau fel cyrsiau hyfforddi'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol  a chynllun AI Cymru, mae'r rhanbarth yn paratoi i sicrhau bod y chwyldro deallusrwydd artiffisial yn arwain at gynhyrchiant uwch a swyddi newydd, nid at gael gwared ar swyddi yn unig. I gyflogwyr, gall buddsoddi mewn ailhyfforddi gweithwyr fod mor hanfodol â buddsoddi yn y dechnoleg newydd ei hun, gan mai'r cwmnïau a fydd yn ffynnu fydd y rhai sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial a thalent pobl gyda'i gilydd yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Yn gyffredinol, mae datblygiadau'r flwyddyn ddiwethaf yn awgrymu bod deallusrwydd artiffisial yn newid y dirwedd gyflogaeth yn y DU yn gyson. Cynghorir cwmnïau De-orllewin Cymru, o gwmnïau technolegol newydd i weithgynhyrchwyr traddodiadol, i aros ar y blaen: archwilio pa dasgau y gellid eu hawtomeiddio, uwchsgilio staff ar gyfer swyddi gwerth uwch, ac ystyried ble y gall dull "deallusrwydd artiffisial a phobl" roi hwb i gynhyrchiant. Y consensws ymhlith arbenigwyr yw nad ydym yn wynebu diflaniad swyddi dros nos, ond cyfnod o esblygiad cyflym. Fel y dywedodd un Prif Swyddog Gweithredol mewn diwydiant, "Mae gennym ni, cynhyrchwyr y dechnoleg hon, ddyletswydd i fod yn onest am yr hyn sy'n dod... Gallai deallusrwydd artiffisial ddileu hanner yr holl swyddi coler wen lefel mynediad o fewn pum mlynedd”. Mae'r rhagolwg difrifol hwnnw yn pwysleisio pam mae parodrwydd yn allweddol. Bydd y degawd nesaf yn golygu aflonyddwch, ond hefyd twf i'r rhai sy'n barod i addasu. Mae'r cwestiwn yn parhau: a yw Cymru yn barod i addasu?

Robert Holdcroft, Y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol De-orllewin Cymru

Ffynonellau:

Cyhoeddiadau – Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol De-orllewin Cymru [careers.ox.ac.uk] [kingstrust.org.uk], [britishcha...ers.org.uk] [independent.co.uk], , [ibtimes.co.uk] [sweat-digital.com], [independent.co.uk] [independent.co.uk], [trans.info] . Amazon’s robots on verge of outnumbering human warehouse staff as AI ramps up [ibtimes.co.uk] [independent.co.uk] . [index.dev] , [gov.wales] [cipd.org] Decoding the Digital Skills Gap Report  [kingstrust.org.uk] Decoding the Digital Skills Gap Report GCSE Computing entries dip but gender gap continues to narrow – BCS analysis | BCS . [kingstrust.org.uk] [britishcha...ers.org.uk] [gov.uk] [careers.ox.ac.uk] [kingstrust.org.uk], [swanseabay...deal.wales], [cipd.org]