Myfyrwyr Blwyddyn 10 yn arddangos eu Sgiliau a'u Talentau mewn Rhaglen Beilot Newydd yn ymwneud â Phrofiad Gwaith

Mae Tîm Rhaglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi bod yn cydweithio ag Ysgol Dyffryn Aman yn Rhydaman i greu rhaglen beilot profiad gwaith ar gyfer disgyblion blwyddyn 10. Nod y prosiect yw darparu profiad gwaith ystyrlon parhaus, sy'n cynnwys gwers ddwbl yr wythnos wedi'i hamserlennu, gan weithio'n agos gyda chyflogwyr lleol dros gyfnod o 6 wythnos a ddiffinnir.

Bydd y prosiect yn ymgorffori profiad gwaith yn llawn yn y cwricwlwm, gan ganiatáu i'r disgyblion ddefnyddio'u gwybodaeth academaidd a'u sgiliau wrth wynebu problemau a heriau'r byd go iawn. Bydd y disgyblion yn gweithio ar y safle gyda'r cyflogwyr, ond byddant hefyd yn cael elfen ystafell ddosbarth lle byddant yn cael adborth ac arweiniad gan eu hathrawon a'u mentoriaid. Bydd y prosiect hefyd yn creu cyfleoedd i'r disgyblion barhau a datblygu eu profiad gwaith ar ôl i'r lleoliad ddod i ben, gan feithrin perthynas yn y tymor hir rhwng y cyflogwyr, y dysgwyr a'r ysgol.

Nod y prosiect yw cefnogi pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau a'r talentau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn y dyfodol. Mae'r rhaglen hefyd yn cefnogi cyflogwyr i ymgysylltu â darparwyr addysg a hyfforddiant, ac i gynnig cyfleoedd profiad gwaith o ansawdd uchel i bobl ifanc.