Mae'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol a BT wedi dod at ei gilydd unwaith eto i ddod â gofod ymgolli BT i ddysgwyr Sir Gaerfyrddin

Mae

Mae'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol a BT wedi dod at ei gilydd unwaith eto i ddod â gofod ymgolli BT i ddysgwyr Sir Gaerfyrddin, lle gallant archwilio gwahanol sefyllfaoedd gan ddefnyddio technoleg arloesol.

Roedd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn rhan o ddigwyddiad gyrfaoedd Dewis eich Dyfodol ym Mharc y Scarlets, lle roedd 13 ysgol gyfun yn bresennol. Nod y digwyddiad oedd rhoi cipolwg i ymwelwyr ar wahanol opsiynau sydd ar gael o ran gyrfaoedd a'r llwybrau i'w dilyn. Roedd hwn yn gyfle gwerthfawr i ddisgyblion ddysgu oddi wrth weithwyr proffesiynol y diwydiant a darganfod pa sgiliau a rhinweddau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Maent hefyd wedi cael gwell dealltwriaeth o'r byd gwaith.

Yn ein pabell fawr, gallai dysgwyr ymgolli ym myd peirianneg a rhoi cynnig ar weithredu tyrbin gwynt, rhoi gwasanaeth i gar F1, a llawer mwy. Roeddent hefyd yn gallu dysgu am rolau a llwybrau amrywiol a chyffrous ym maes peirianneg trwy siarad â'n tîm a chael golwg ar ein Coed Peirianyddol arloesol.