Gweithio ym maes Peirianneg, Cyfres Fideo Newydd

Mae Peirianneg yn sector sy'n ffynnu yn ne-orllewin Cymru, gyda galw mawr am weithwyr medrus, ac mae'n cynnig rhagolygon gyrfa cyffrous. Er mwyn arddangos y cyfleoedd a'r llwybrau amrywiol sydd ar gael ym maes peirianneg, rydym wedi creu cyfres o ffilmiau byr.

Mae'r gyfres fideo yn cynnwys cyfweliadau gyda phrentisiaid lleol, sy'n rhannu eu profiadau a'u safbwyntiau ynghylch y diwydiant peirianneg. Mae'r fideos hefyd yn tynnu sylw at fanteision prentisiaethau, gan gynnwys gradd-brentisiaethau, er mwyn ennill cymwysterau gwerthfawr a phrofiad ymarferol wrth ennill cyflog.

Y nod yw ysbrydoli dysgwyr ifanc ac oedolion i ystyried peirianneg fel dewis gyrfa sy'n rhoi boddhad mawr, ynghyd â chodi ymwybyddiaeth o anghenion y sector nawr ac yn y dyfodol o ran sgiliau.