Mae Rhaglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn brosiect gwerth £30 miliwn sy'n ceisio gwella sgiliau a chyflogadwyedd miloedd o bobl yn ne-orllewin Cymru. Mae'r rhaglen wedi cefnogi 19 o brosiectau yn ariannol, ac mae pob un yn cynnig cyfle gwahanol i ddysgu sgiliau newydd mewn ysgolion; cymwysterau newydd mewn colegau neu gyrsiau byr a micro-gymwysterau newydd drwy ein Prifysgolion i gefnogi ein Diwydiannau ar draws y rhanbarth.
Y Prosiectau Peilot sydd wedi'u cymeradwyo hyd yma yw:
· Datblygu llwybr dysgu ym meysydd Peirianneg a TG
· Pasbort i Gyflogaeth Sir Benfro
· Codi Ymwybyddiaeth Carbon Isel a Sero Net
· Meithrin Iechyd a Llesiant mewn Byd Digidol
· Gyrfaoedd yn y Sector Digidol
· Sgiliau'r 21ain Ganrif
· Sgiliau Gweithgynhyrchu Batris
· Sgiliau Sero Net Cymru
· Sero Net : How Green Was My Valley
· Hyfforddiant Technolegau 5G
· Sgiliau ar gyfer y Dyfodol o ran y Tir a'r Môr
· Adeiladu Cymru Sero Net – Nid Busnes fel Arfer
· "Futurescape: Building the Next Generation"
· Prosiect Hyfforddiant Technolegau Realiti Rhithwir/Realiti Estynedig (VR/AR)
· Hyfforddiant Uwch - Drôn Diwydiannol
· SPARC
· Sgiliau AGOR – Iechyd a Lles Chwaraeon
· Addas ar gyfer Ynni Adnewyddadwy Môr Cymru (F4OR)
· Hwb Trawsnewid Ynni
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y prosiectau ar ein gwefan www.rlp.org.uk.
Mae'r rhaglen hefyd wedi cefnogi datblygu rhaglen brentisiaeth newydd sbon ar gyfer Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr, sy'n cwmpasu'r lefelau rhwng 2 a 6. Mae'r garfan gychwynnol o fyfyrwyr eisoes wedi dechrau eu prentisiaethau gyda Choleg Gŵyr Abertawe a bydd y radd-brentisiaeth yn dechrau cyn bo hir gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Bydd y rhaglen yn cael ei rhedeg tan 2027 ac mae dal cyllid ar gael ar gyfer datblygu prosiectau peilot newydd ar gyfer unrhyw un o'r sectorau blaenoriaeth canlynol:
Gweithgynhyrchu; Digidol, Iechyd; Ynni neu Adeiladu. Gall y prosiectau peilot gynnwys cyrsiau newydd y sector; gwella sgiliau gweithlu presennol neu hyfforddiant newydd ar gyfer ymadawyr ysgol etc.
Os oes gennych fwlch sgiliau ac nad ydych yn gallu dod o hyd i unrhyw hyfforddiant, cysylltwch â'r tîm i gael gwybod sut y gallwn helpu.
Jane Lewis jelewis@sirgar.gov.uk neu Sam Cutlan scutlan@sirgar.gov.uk