Datgelu Hoelio Sylw ar Ddr-Orllewin a Chanolbarth Cymru i Filoedd o Fyfyrwyr
Mae’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol, ar y cyd â Gyrfa Cymru, wedi datblygu adnodd newydd cyffrous a elwir yn ‘Hoelio Sylw ar Dde-orllewin a Chanolbarth Cymru’. Offeryn arloesol yw’r adnodd hwn sydd wedi cael ei ddylunio i dynnu sylw at y cyfleoedd gwaith sydd ar gael ar draws y rhanbarth i bobl ifanc sydd ar fin gadael ysgol.
Cynhyrchwyd fideo byr sy’n cyd-fynd â’r adnodd er mwyn tynnu sylw at y prosiectau seilwaith allweddol sy’n cael eu cynllunio ar hyn o bryd ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru. Bydd gwylwyr yn gweld cyflogwyr allweddol a chynrychiolwyr diwydiant yn dangos y cyfoeth o gyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc yn y rhanbarth.
Cafodd ‘Hoelio Sylw ar Dde-orllewin a Chanolbarth Cymru’ ei lansio’n swyddogol yn ystod Wythnos Prentisiaethau a’i ddangos mewn nifer o ddigwyddiadau gyrfaoedd ledled y rhanbarth.
Lawrlwytho Poster yma
Lawrlwytho fel PDF yma